Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.15
Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5584 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r cynnydd a wnaed yn uwchgynhadledd newid hinsawdd y
Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2014 yn Efrog Newydd;
2. Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw datgoedwigo yn parhau yng
Nghymru a bod ei tharged o 100,000 hectar o goedwigaeth newydd yn cael ei
gyrraedd erbyn 2030;
3. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i
gyrraedd ei thargedau newid hinsawdd ar gyfer 2020;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ystod ehangach o ynni
adnewyddadwy, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, ynni adnewyddadwy morol,
treulio anaerobig ac ynni dŵr;
5. Yn galw am ddatganoli Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy,
neu'r hyn sy'n eu dilyn, i Lywodraeth Cymru; a
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
archwilio i rwystrau i gysylltu â'r grid ar gyfer prosiectau ynni ar raddfa
fach o dan 50MW.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
39 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i gyrraedd ei
thargedau Newid Hinsawdd ar gyfer 2020;
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 5 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn llongyfarch Tidal Energy Cyf. ar ddadorchuddio ei ddyfais DeltaStream
ar 7 Awst 2014, a wnaed yn bosibl drwy ddefnyddio arian Swyddfa Cyllid
Ewropeaidd Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau o'r
fath yn parhau i gael cefnogaeth briodol yn y dyfodol fel y gall Cymru wneud y
mwyaf o botensial ynni adnewyddadwy morol i hyrwyddo dull grid cymysg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 5 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn croesawu'r datblygiad diweddar o ddwy ardal profi ac arddangos morol
yn nyfroedd Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth reolaidd
i'r Cynulliad am ei chynnydd tuag at alluogi datblygiadau technolegol pellach a
masnacheiddio dyfeisiadau sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy o'r tonnau a'r
llanw.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Elin Jones
(Ceredigion)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod adnoddau naturiol Cymru yn asedau gwerthfawr y gellid eu
defnyddio i dorri allyriadau carbon, ac yn galw am ddatganoli'r holl bwerau
dros ynni yn llawn, gan gynnwys pob agwedd ar drwyddedu, caniatâd cynllunio ac
Ystad y Goron.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targed i Gymru fod yn hunangynhaliol
o ran trydan adnewyddadwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen ôl-osod uchelgeisiol i
gynyddu effeithlonrwydd ynni y stoc dai bresennol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5584 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r cynnydd a wnaed yn uwchgynhadledd newid hinsawdd y
Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2014 yn Efrog Newydd;
2. Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw datgoedwigo yn parhau yng
Nghymru a bod ei tharged o 100,000 hectar o goedwigaeth newydd yn cael ei
gyrraedd erbyn 2030;
3. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i
gyrraedd ei thargedau newid hinsawdd ar gyfer 2020;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ystod ehangach o ynni
adnewyddadwy, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, ynni adnewyddadwy morol,
treulio anaerobig ac ynni dŵr;
5. Yn croesawu'r datblygiad diweddar o ddwy ardal profi ac arddangos
morol yn nyfroedd Cymru ac yn galw ar LywodraethCymru i ddarparu gwybodaeth
reolaidd i'r Cynulliad am ei chynnydd tuag at alluogi datblygiadau technolegol
pellach a masnacheiddio dyfeisiadau sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy o'r tonnau
a'r llanw.
6. Yn llongyfarch Tidal Energy Cyf. ar ddadorchuddio ei ddyfais
DeltaStream ar 7 Awst 2014, a wnaed yn bosibl drwy ddefnyddio arian Swyddfa
Cyllid Ewropeaidd Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
prosiectau o'r fath yn parhau i gael cefnogaeth briodol yn y dyfodol fel y gall
Cymru wneud y mwyaf o botensial ynni adnewyddadwy morol i hyrwyddo dull grid
cymysg.
7. Yn galw am ddatganoli Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy,
neu'r hyn sy'n eu dilyn, i Lywodraeth Cymru.
8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
archwilio i rwystrau i gysylltu â'r grid ar gyfer prosiectau ynni ar raddfa
fach o dan 50MW.
9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen ôl-osod uchelgeisiol
i gynyddu effeithlonrwydd ynni y stoc dai bresennol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 02/10/2014
Dyddiad y penderfyniad: 01/10/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad