Manylion y penderfyniad

Dadl Plaid Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.14

NDM5571 Elin Jones (Ceredigion)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai'r berthynas rhwng cenhedloedd yr ynysoedd hyn newid yn dilyn y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban;

2. Yn credu bod pobl Cymru yn sofran ac mai nhw ddylai benderfynu ar natur a chyflymder datblygiadau cyfansoddiadol yn y wlad hon; a

3. Yn galw ar y Prif Weinidog i ddechrau trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar unwaith i hwyluso'r broses o drosglwyddo cyfrifoldeb dros swyddogaethau i Gymru, er mwyn ail-gydbwyso pwerau rhwng y cenhedloedd.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

42

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn croesawu'n fawr benderfyniad diamwys yr Alban i bleidleisio yn erbyn annibyniaeth ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phob rhan o'r Deyrnas Unedig i greu undeb cryfach at y dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

41

52

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg), Aled Roberts (Gogledd Cymru):

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu'r ffaith fod pobl yr Alban wedi dewis aros yn aelod o deulu cenhedloedd y Deyrnas Unedig;

2. Yn credu bod yn rhaid inni hyrwyddo undeb newydd ar gyfer holl bobl y DU, gan gynnwys Cymru; a

3. Yn galw am weithredu ar fyrder Rannau 1 a 2 o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i ddrafftio cynllun ar gyfer undeb newydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

11

10

52

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5571 Elin Jones (Ceredigion)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu'r ffaith fod pobl yr Alban wedi dewis aros yn aelod o deulu cenhedloedd y Deyrnas Unedig;

2. Yn credu bod yn rhaid inni hyrwyddo undeb newydd ar gyfer holl bobl y DU, gan gynnwys Cymru; a

3. Yn galw am weithredu ar fyrder Rannau 1 a 2 o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i ddrafftio cynllun ar gyfer undeb newydd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

11

10

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 25/09/2014

Dyddiad y penderfyniad: 24/09/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/09/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad