Manylion y penderfyniad

Legislative Consent Memorandum on the Infrastructure Bill: Provisions for the Control of Invasive Non-Native Species

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy

Diben:

Mae'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn yn ymwneud â darpariaethau ym Mil Seilwaith y DU sy'n ceisio caniatáu i rai awdurdodau amgylcheddol gymryd camau i ddileu neu reoli rhywogaethau estron goresgynnol ("RhEG") sy'n peri bygythiadau difrifol i fioamrywiaeth, buddiannau amgylcheddol eraill neu fuddiannau cymdeithasol neu economaidd.

Darperir lincs i bob un o'r dogfennau y cyfeirir atynt ar y dudalen hon isod, gweler 'Ffynonellau a gwybodaeth ychwanegol'.

Cefndir

Mae Bil Seilwaith Llywodraeth y DU ('y Bil') yn cael ei ystyried gan Senedd y DU ar hyn o bryd.

Diben rhai adrannau o'r Bil hwn yw deddfu mewn meysydd cymhwysedd sydd wedi eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n ofynnol, yn ôl confensiwn, bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru ('y Cynulliad') yn ystyried cydsynio â hyn. Mae'r Cynulliad yn gwneud hyn drwy ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am gynigion cydsyniad deddfwriaethol i'w chael yn hysbysiad hwylus y Gwasanaeth Ymchwil Cyfres y Cyfansoddiad: 6 Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru femorandwm cydsyniad deddfwriaethol ('y memorandwm') ar 18 Mehefin 2014 sy'n esbonio hyn yn fwy manwl.

Yn bennaf, mae'r memorandwm yn nodi bod y darpariaethau yn y Bil y gwneir cais i gael cydsyniad ar eu cyfer wedi'u cynnwys o fewn Rhan 2, Cymal 16.

Mae Rhan 2, Cymal 16 yn mewnosod is-adran newydd 14(4A) i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ("Deddf 1981") sy'n darparu ar gyfer mesurau sy'n ymwneud â chytundebau rheoli rhywogaethau a gorchmynion rheoli rhywogaethau sydd i'w cynnwys mewn Atodlen 9A newydd i Ddeddf 1981.

Mae'r Atodlen 9A newydd yn bum rhan ac yn 26 o adrannau.

Diben y polisi

Mae'r memorandwm yn nodi diben y polisi yn fwy manwl. Ceir crynodeb byr yn y blwch isod.

Crynodeb o ddiben y polisi

Bydd Cymal 16, os caiff ei wneud yn gyfraith, yn caniatáu i rai awdurdodau amgylcheddol gymryd camau i ddileu neu reoli rhywogaethau estron goresgynnol ("RhEG") sy'n peri bygythiadau difrifol i fioamrywiaeth, buddiannau amgylcheddol eraill neu fuddiannau cymdeithasol neu economaidd.

Mae hyn yn cynnwys pwerau mynediad mewn amgylchiadau diffiniedig.



Ffynonellau a gwybodaeth ychwanegol


Mae copi o'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gael yn: http://www.cynulliadcymru.org

Mae'r Bil Seilwaith ar gael ar wefan Senedd y DU: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/infrastructure.html 

Mae Hysbysiad Hwylus y Gwasanaeth Ymchwil Cyfres y Cyfansoddiad: 6 Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gael yn: http://www.cynulliadcymru.org/qg07-0006.pdf  

Gellir gweld y Rheolau Sefydlog yn http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-assembly-guidance.htm (Mae Rheol Sefydlog 29 yn nodi'r broses ar gyfer ystyried memorandwm cydsyniad deddfwriaethol).

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.54

NDM5533 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Seilwaith, sy'n ymwneud â dileu a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol drwy gytundebau a gorchmynion rheoli rhywogaethau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Dyddiad cyhoeddi: 24/09/2014

Dyddiad y penderfyniad: 23/09/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad