Manylion y penderfyniad
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad
i Weinidogion Cymru am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.
Bydd Gweinidogion Cymru yn ateb cwestiynau unwaith bob
pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer
Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a
gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Penderfyniad:
Ni ofynnwyd
cwestiwn 1. Gofynnwyd yr 13 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 5 a 12 eu hateb
gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau. Tynnwyd cwestiwn 11 yn ôl.
Dyddiad cyhoeddi: 14/07/2011
Dyddiad y penderfyniad: 13/07/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/07/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad