Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:53
NDM5562 Elin Jones AC
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod 266,000 o weithwyr yng Nghymru yn cael eu talu llai na'r
cyflog byw.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at greu cyflog byw yng
Nghymru drwy:
a) sefydlu cyflog byw ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru;
b) gweithio gyda chyflogwyr i esbonio manteision talu'r cyflog byw; a
c) cyflwyno sylwadau i'r Comisiwn Cyflogau Isel i sicrhau bod yr isafswm
cyflog yn codi i lefel y cyflog byw erbyn 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
13 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 18/09/2014
Dyddiad y penderfyniad: 17/09/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/09/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad