Manylion y penderfyniad

Debate on domestic abuse

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Penderfyniad:

 

Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Mynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi ymhellach:

a) Rôl ac arbenigedd mudiadau’r Trydydd Sector o ran mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig, yn ogystal â darparu cymorth i ddioddefwyr a phlant;

b) Yr angen i ymgysylltu â mudiadau’r Trydydd Sector yn llawn wrth fesur y cynnydd a gyflawnwyd yn erbyn blaenoriaethau Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig ac ar welliant 2 o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sicrhau bod dioddefwyr trais domestig yn parhau i gael mynediad at gyfiawnder.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

13

0

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

NDM4784 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried y cynnydd a wnaed yn y flwyddyn gyntaf yn erbyn blaenoriaethau Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel; ac

2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella diogelwch unigolion a'u teuluoedd sy'n destun cam-drin domestig ac i roi cefnogaeth iddynt.

3. Yn nodi ymhellach:

a) Rôl ac arbenigedd mudiadau’r Trydydd Sector o ran mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig, yn ogystal â darparu cymorth i ddioddefwyr a phlant;

b) Yr angen i ymgysylltu â mudiadau’r Trydydd Sector yn llawn wrth fesur y cynnydd a gyflawnwyd yn erbyn blaenoriaethau Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sicrhau bod dioddefwyr trais domestig yn parhau i gael mynediad at gyfiawnder.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48


Derbyniwyd y cynnig.

 

Dyddiad cyhoeddi: 13/07/2011

Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2011

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad