Manylion y penderfyniad
Debate on the Assembly Commission's Report on the Official Languages Scheme
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Bwrdd Rheoli
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
Diben:
Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn ieithoedd swyddogol yn y
Cynulliad ac mae Comisiwn y Cynulliad yn rhoi arweiniad cryf ac uchelgeisiol
wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Nodi y Cynulliad yw bod yn sefydliad gwirioneddol
ddwyieithog. Mae’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn nodi’r hyn y mae’r Cynulliad
yn ei ddarparu’n ddwyieithog a’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud yn y maes hwnnw.
Cafodd y Cynllun ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Cynulliad ym mis Gorffennaf
2013 ac mae’n seiliedig ar Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd
Swyddogol) 2012.
Dyma brif flaenoriaethau’r Cynllun:
- darparu cymorth arloesol sydd wedi’i deilwra er mwyn galluogi pobl i
ddefnyddio’r ddwy iaith;
- gwneud y defnydd gorau o dechnoleg;
- datblygu sgiliau a hyder staff y Cynulliad i ddarparu’r cymorth hwnnw
yn Gymraeg;
- rhannu’r hyn sy’n gweithio i ni â gweddill Cymru a’r byd amlieithog tu
hwnt.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 15.53
NDM5556 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn
unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar
Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 17/07/2014
Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/07/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad