Manylion y penderfyniad
Legislative Consent Motion on the Criminal Justice and Courts Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Defnyddir hwn ble y bydd
Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol
Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.
Cyflwynodd
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad
Atodol ar gyfer y Bil Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd (Memorandwm rhif 2)
(PDF, 368MB) ar 24 Medi 2014.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 17.42
NNDM5549 Carl Sargeant (Alun a Glannau
Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bil Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd sy’n cyflwyno gofyniad
i gael caniatâd yr Uchel Lys cyn y ceir herio dilysrwydd amrywiol orchmynion,
camau, cynlluniau a dogfennau strategol eraill sy’n ymwneud â chynllunio, i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 09/07/2014
Dyddiad y penderfyniad: 08/07/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/07/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad