Manylion y penderfyniad

Dadl Plaid Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.07

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5545 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

2. Yn nodi nad yw'r adroddiad yn ymdrin yn gynhwysfawr â gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaeth iechyd, yn sgil y cylch gorchwyl a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

3. Yn credu bod angen darparu mandad democrataidd ar gyfer pecyn strategol hirdymor i ddiwygio’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.

 

4. Yn credu ymhellach mai'r ffordd orau o drafod a datrys y cydbwysedd o gymwyseddau a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhwng llywodraeth genedlaethol, ranbarthol a chymunedol yw drwy faniffestos pleidiau yn ystod etholiad nesaf y Cynulliad.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

0

39

47

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Dileu pwynt 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

23

47

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn credu y byddai’r atebolrwydd ychwanegol a fyddai’n deillio o system bleidleisio deg yn gwella gwasanaethau cyhoeddus.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

35

47

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y dylid sicrhau y caiff dinasyddion a chymunedau eu cynnwys yn fwy wrth gydgynhyrchu'r gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y 'gall y trydydd sector roi gwybodaeth am brofiad defnyddwyr o wasanaethau a gall helpu i sicrhau yr ymgysylltir mewn ffordd systematig a chynaliadwy â chymunedau yn ogystal ag arbenigedd y sector mewn meysydd polisi a gwasanaeth amrywiol'.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod yr angen am werthusiadau cost llawn cyn cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â newidiadau strwythurol i wasanaethau cyhoeddus.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

24

47

Gwrthodwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5545 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

2. Yn credu bod angen darparu mandad democrataidd ar gyfer pecyn strategol hirdymor i ddiwygio’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.

 

3. Yn credu ymhellach mai'r ffordd orau o drafod a datrys y cydbwysedd o gymwyseddau a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhwng llywodraeth genedlaethol, ranbarthol a chymunedol yw drwy faniffestos pleidiau yn ystod etholiad nesaf y Cynulliad.

 

4. Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y dylid sicrhau y caiff dinasyddion a chymunedau eu cynnwys yn fwy wrth gydgynhyrchu'r gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau.

 

5. Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y 'gall y trydydd sector roi gwybodaeth am brofiad defnyddwyr o wasanaethau a gall helpu i sicrhau yr ymgysylltir mewn ffordd systematig a chynaliadwy â chymunedau yn ogystal ag arbenigedd y sector mewn meysydd polisi a gwasanaeth amrywiol'.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 03/07/2014

Dyddiad y penderfyniad: 02/07/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/07/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad