Manylion y penderfyniad

Dadl Plaid Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.00

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5536 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn dymuno'n dda i dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.

 

2. Yn nodi pwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i iechyd a lles.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) sicrhau bod gan bawb fynediad i chwaraeon a gweithgarwch corfforol;

 

b) adolygu effeithiolrwydd addysg gorfforol o ran annog cyfranogi gydol oes mewn chwaraeon a mynd i’r afael â chyfraddau cyfranogi isel ymhlith rhai grwpiau economaidd-gymdeithasol; ac

 

c) gwella'r cysylltiadau rhwng cyrff llywodraethu cenedlaethol, awdurdodau lleol, ysgolion a chlybiau chwaraeon i sicrhau bod arferion hyfforddiant gorau yn cael eu mabwysiadu i gynyddu'r tebygolrwydd y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gallu cystadlu ar y lefel uchaf.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

14

46

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 26/06/2014

Dyddiad y penderfyniad: 25/06/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad