Manylion y penderfyniad
Dadl ar Araith y Frenhines
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.16
Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Pwyllgor
Busnes y byddai unrhyw bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ôl y ddadl.
NDM5522 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer
2014/2015.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y model datganoli treth incwm a gynigir ar gyfer Cymru, ym
Mil Cymru, yn cael ei gyfyngu gan yr hyn a elwir yn fecanwaith “cyd-gerdded”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
40 |
12 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y diffyg cynigion yn rhaglen
ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU i symud ymlaen ag unrhyw feysydd datganoli
pellach a argymhellwyd gan adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
26 |
17 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU fod wedi cynnwys
deddfwriaeth i ail-gydbwyso economi’r DU mewn modd sy’n mynd i’r afael ag
anghydraddoldebau rhanbarthol ac yn hyrwyddo tegwch economaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
17 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith y bydd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn parhau
i adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r cyhoeddiad yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar
ofal plant di-dreth a fydd yn golygu y bydd oddeutu 83,600 o deuluoedd yng
Nghymru yn cael budd o £2,000 oddi ar gost eu gofal plant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
9 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith y bydd y Bil Troseddau Difrifol, yn dilyn yr ymgyrch
gan Aelod Seneddol Ceredigion, y Democrat Rhyddfrydol Cymreig Mark Williams, yn
cynnwys darpariaeth i nodi’n glir fod creulondeb sy’n debygol o achosi niwed
seicolegol i blentyn yn drosedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
31 |
21 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r diwygiadau pensiwn chwyldroadol a gynigiwyd gan Weinidog y
Democratiaid Rhyddfrydol Steve Webb sydd i’w cynnwys yn y Bil Pensiynau
Preifat, a fydd yn rhoi rhyddid a diogelwch i bobl wedi ymddeol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
21 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith y bydd y Draft Governance of National Parks (England)
& the Broads Bill yn cynnwys darpariaethau ar gyfer etholiadau uniongyrchol
ar gyfer awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn Lloegr, yn dilyn ymgyrchu gan Aelod
Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed, y Democrat Rhyddfrydol Roger Williams, ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi diwygiadau tebyg ar waith yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
21 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU, fel yr amlinellir yn y
rhaglen ddeddfwriaethol, i adfer lles ariannol yn y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd y Biliau yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn
sicrhau dyfodol gwell a mwy disglair i bobl Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 10.
Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith y bydd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn
rhoi mesurau allweddol ar waith i gynyddu ymhellach y lwfans personol i
£10,500, gan adeiladu ar yr ymrwymiad ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol
ar gyfer etholiad cyffredinol 2010 i gynyddu trothwy’r dreth incwm i £10,000.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
31 |
21 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 11.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5522 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol
Llywodraeth y DU ar gyfer 2014/2015.
2. Yn gresynu bod y model datganoli treth incwm
a gynigir ar gyfer Cymru, ym Mil Cymru, yn cael ei gyfyngu gan yr hyn a elwir
yn fecanwaith “cyd-gerdded”.
3. Yn credu y dylai rhaglen ddeddfwriaethol
Llywodraeth y DU fod wedi cynnwys deddfwriaeth i ail-gydbwyso economi’r DU mewn
modd sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol ac yn hyrwyddo tegwch
economaidd.
4. Yn croesawu’r ffaith y bydd y Bil Troseddau
Difrifol, yn dilyn yr ymgyrch gan Aelod Seneddol Ceredigion, y Democrat
Rhyddfrydol Cymreig Mark Williams, yn cynnwys darpariaeth i nodi’n glir fod
creulondeb sy’n debygol o achosi niwed seicolegol i blentyn yn drosedd.
5. Yn croesawu’r ffaith y bydd rhaglen
ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn rhoi mesurau allweddol ar waith i gynyddu
ymhellach y lwfans personol i £10,500, gan adeiladu ar yr ymrwymiad ym
maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer etholiad cyffredinol 2010 i
gynyddu trothwy’r dreth incwm i £10,000.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
5 |
12 |
52 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 12/06/2014
Dyddiad y penderfyniad: 11/06/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad