Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Bu Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal
ymchwiliad byr i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ystod tymhorau’r
hydref-gaeaf 2013-14.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd i ganolbwyntio ar:
Tystiolaeth gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu
tystiolaeth am y testun yma.
Adroddiad y Pwyllgor
Cyflwynodd y
Pwyllgor adroddiad (PDF, 790KB) ym mis Mawrth 2014. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru (PDF, 222KB) ym mis Mai 2014.
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cynhaliwyd y
ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar 4
Mehefin 2014.
Dechreuodd
yr eitem am 15.55
NDM5519 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar waith
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mawrth
2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 05/06/2014
Dyddiad y penderfyniad: 04/06/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad