Manylion y penderfyniad
Debate on the Constitutional and Legislative Affairs Committee’s Report on its Inquiry into Wales' role in the EU decision-making process
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Ymchwiliad ar droed
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae'r Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i rôl
Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE.
Diben yr ymchwiliad yw
ystyried safle cyfansoddiadol Cymru yn yr UE, ac yn benodol, sut y caiff Cymru
ei chynnwys yn y drefn o wneud penderfyniadau ar lefel yr UE, yn hytrach na
chynnal trafodaeth fwy cyffredinol ynghylch manteision ac anfanteision
aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r UE, a gwneud argymhellion yn hyn o beth.
Mae cylch gorchwyl yr
ymchwiliad fel a ganlyn:
- Clywed tystiolaeth arbenigol ar sut y caiff
buddiannau Cymru o ran y meysydd datganoledig, eu cynrychioli ar hyn o
bryd yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE;
- Ystyried a yw'r trefniadau presennol yn galluogi
Cymru i gael digon o lais yn yr UE;
- Ystyried sut y caiff buddiannau Cymru eu hymgorffori
yn yr 'Adolygiad o’r Cydbwysedd o ran Cymhwysedd rhwng y DU a’r Undeb
Ewropeaidd' a gaiff ei gynnal ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU; a
- Gwneud argymhellion, os yn briodol, ynghylch sut y
caiff buddiannau Cymru o ran y meysydd datganoledig, eu hystyried yn yr
UE.
Mae'r Pwyllgor yn
ymgynghori â rhanddeiliaid a sefydliadau allweddol, a bydd yn clywed
tystiolaeth lafar yn yr haf.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 15.02
NDM5518 David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar
ei ymchwiliad i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mawrth 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 05/06/2014
Dyddiad y penderfyniad: 04/06/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad