Manylion y penderfyniad

Dadl Plaid Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.49

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5511 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu bod rhannau o gymoedd de Cymru yn parhau i wynebu lefelau uchel o amddifadedd.

 

2. Yn cydnabod bod trechu tlodi yn y Cymoedd yn ei gwneud yn ofynnol cael buddsoddiad parhaus ac ymyriad Llywodraeth Cymru.

 

3. Yn nodi'r potensial sylweddol i gymoedd de Cymru hyrwyddo eu treftadaeth gymdeithasol a diwylliannol.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cynorthwyo'n uniongyrchol fentrau ar lawr gwlad i drechu tlodi a gwella adfywiad ardaloedd ag amddifadedd yn y Cymoedd;

 

b) sicrhau bod digon o ofal plant fforddiadwy i ddiwallu anghenion rhieni;

 

c) sicrhau bod gan bob unigolyn sydd allan o waith yn y Cymoedd fynediad i hyfforddiant prentisiaeth neu sgiliau;

 

d) datblygu, drwy ymgynghori â'r cyhoedd, strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael â'r problemau a meithrin cymunedau cynaliadwy yn y Cymoedd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

15

43

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 22/05/2014

Dyddiad y penderfyniad: 21/05/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/05/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad