Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.28
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5505 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu
rhwydwaith rheilffordd cyflymder uchel HS2 yn Lloegr.
2. Yn cydnabod y rhagwelir y bydd datblygu HS2
yn cael effaith negyddol gyffredinol ar economi Cymru.
3. Yn gresynu, hyd yma, na chadarnhawyd y bydd
Cymru yn cael unrhyw adnodd ychwanegol pellach drwy fformiwla Barnett yn sgîl
gwariant Llywodraeth y DU ar HS2.
4. Yn nodi pwysigrwydd hanfodol buddsoddi yn y
seilwaith trafnidiaeth ar gyfer rhagolygon economi Cymru yn y dyfodol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid canlyniadol Barnett llawn
neu unrhyw setliad ariannol teg arall, yn sgîl datblygu HS2.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
41 |
50 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘cydnabod’ a
rhoi yn ei le:
‘y cyfleoedd y mae HS2 yn eu cynnig i gryfhau’r achos busnes dros
drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
9 |
50 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great
Western.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
9 |
50 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i anrhydeddu ei chytundeb gyda Llywodraeth y
DU i weithio mewn partneriaeth i drydaneiddio rheilffyrdd de Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
34 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn croesawu’r cynnydd yng nghapasiti rheilffyrdd y DU yn sgîl datblygu HS2,
a fydd yn galluogi rhagor o gerbydau cludo i deithio ar y rheilffyrdd ar hyd a
lled y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
9 |
0 |
50 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5505 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu
rhwydwaith rheilffordd cyflymder uchel HS2 yn Lloegr.
2. Yn cydnabod y cyfleoedd y mae HS2 yn eu
cynnig i gryfhau’r achos busnes dros drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru.
3. Yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol i drydaneiddio Prif Reilffordd y
Great Western.
4. Yn nodi pwysigrwydd hanfodol buddsoddi yn y seilwaith
trafnidiaeth ar gyfer rhagolygon economi Cymru yn y dyfodol.
5. Yn croesawu’r cynnydd yng nghapasiti rheilffyrdd y DU yn sgîl datblygu HS2,
a fydd yn galluogi rhagor o gerbydau cludo i deithio ar y rheilffyrdd ar hyd a
lled y DU.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid canlyniadol Barnett llawn
neu unrhyw setliad ariannol teg arall, yn sgîl datblygu HS2.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
31 |
0 |
19 |
50 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 15/05/2014
Dyddiad y penderfyniad: 14/05/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/05/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad