Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5478 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cyfraddau disgwyliad oes is mewn
cymunedau o amddifadedd;
2. Yn cydnabod rôl deddfwriaeth, trethiant a
pholisi cyhoeddus o ran hyrwyddo iechyd da a mynd i’r afael â'r cysylltiad
rhwng tlodi ac afiechyd; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i
dorri'r cysylltiad rhwng tlodi ac afiechyd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
15 |
50 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 27/03/2014
Dyddiad y penderfyniad: 26/03/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad