Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 18.08
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5467 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â
rhwystrau i gyflogaeth a dilyniant gyrfa drwy:
a) Ymestyn gofal plant fforddiadwy ledled Cymru;
b) Sicrhau bod cyrff y sector cyhoeddus yn cymryd
camau gweithredu cadarnhaol i gynyddu amrywiaeth;
c) Gweithio gyda chyflogwyr mawr i gynyddu
cyfleoedd i bobl anabl;
d) Cefnogi'r cyflog byw a dileu arferion
cyflogaeth gwael fel contractau dim oriau.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
17 |
52 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 20/03/2014
Dyddiad y penderfyniad: 19/03/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad