Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5449 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod y Gymraeg yn sbarduno'r
economi a bod ei ffyniant tymor hir fel iaith gymunedol yn dibynnu ar dwf
economaidd rhanbarthol a lleol cryf.
2. Yn cydnabod bod gwariant gan Lywodraeth Cymru
a chyrff cyhoeddus yn gallu dylanwadu’n drwm ar yr iaith.
3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru a’i
phartneriaid ddatblygu polisïau i gefnogi’r iaith a hyrwyddo ei budd economaidd
ar sail ardaloedd penodedig.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
5 |
55 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 12/03/2014
Dyddiad y penderfyniad: 12/03/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad