Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 15.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5438
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r gostyngiad o 44% mewn incwm ffermydd ar draws
pob math o ffermydd yng Nghymru y llynedd;
2. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i
drosglwyddo'r 15% yn llawn o Golofn 1 i Golofn 2 o'r Polisi Amaethyddol
Cyffredin a'r gostyngiad dilynol o 23.4% o ran hawliau Cynllun y Taliad Sengl;
a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth lawn i'r
amgylchiadau heriol hyn ac amgylchiadau heriol eraill a wynebir gan y diwydiant
amaethyddol ar hyn o bryd wrth iddi gyflwyno diwygiadau i'r Polisi Amaethyddol
Cyffredin, Cynllun Datblygu Gwledig newydd a mentrau polisi gwledig ehangach
yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
43 |
53 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn
unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ddefnyddio’r Cynllun Datblygu Gwledig i gyflwyno cynllun Ardaloedd â
Chyfyngiadau Naturiol penodol i Weundiroedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn
y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn gresynu ymhellach at effaith TB buchol ar
incwm ffermydd yng Nghymru a methiant Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r
mater pwysig hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
1 |
27 |
54 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gan fod
y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y
gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 19/02/2014
Dyddiad y penderfyniad: 19/02/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/02/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad