Manylion y penderfyniad
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau Sefydlog 11.21:
Rhaid trefnu amser ar gael ym
mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar eitemau canlynol o fusnes:
(iv) cynigion
a wneir han unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5423 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn nodi:
a) yr effaith andwyol y mae colli
eu pensiynau wedi’i chael ar dros 700 o gyn-weithwyr Visteon sy’n byw yn ardal
Abertawe a’r cyffiniau;
b) yr effaith ddilynol y mae colli
pensiynau gweithwyr Visteon wedi’i chael ar economi Abertawe a’r cyffiniau;
c) y bydd pum mlynedd wedi mynd
heibio ar 2 Ebrill eleni ers cau Visteon fel cwmni, a bod gorymdaith fawr yn
cael ei threfnu yn San Steffan; a
d) bod eleni’n flwyddyn bwysig i’r
ymgyrch, o ystyried y bydd achos llys Unite the Union yn erbyn Ford yn cael ei
gynnal yn yr Uchel Lys yn Llundain ddiwedd 2014.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ymchwilio i effaith colli eu pensiynau ar weithwyr Visteon ac ar economi’r
ardal lle maent yn byw.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
14 |
4 |
41 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 12/02/2014
Dyddiad y penderfyniad: 12/02/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/02/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad