Manylion y penderfyniad
Supplementary Legislative Consent Motion on the Children and Families Bill in relation to the purchase of tobacco etc on behalf of children, and prohibition of sale of nicotine containing products (e-cigarettes etc) to persons under 18 and the creati
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cyflwynodd y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Plant a Theuluoedd.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.53
NDM5424 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn
unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau
yn y Bil Plant a Theuluoedd sy’n ymwneud â phrynu neu ymgais i brynu tybaco neu
bapurau sigarét ar ran personau sydd o dan 18 oed a gwahardd gwerthu
cynhyrchion nicotin i bersonau o dan 18 oed a throseddau, amddiffyniadau,
cosbau a chamau gorfodi etc cysylltiedig i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Am
14.53, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am ddeg munud. Cafodd y gloch ei
chanu bum munud cyn ailgynnull ar gyfer trafodion Cyfnod 3 ar y Bil
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Dyddiad cyhoeddi: 05/02/2014
Dyddiad y penderfyniad: 04/02/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad