Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4741
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso sefydlu cwmni nid-am-elw-dosbarthiadwy i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
43 |
54 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Nick Ramsay
(Mynwy)
Dileu’r cyfan
a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) Ystyried yr
holl gyfleoedd i godi cyfalaf ar
gyfer prosiectau seilwaith; a
b) Sicrhau bod mwy o ddadansoddi costau mewn prosiectau adeiladwaith mawr er mwyn cael mwy o gyfrifoldeb dros gyllidebau a bod gwaith yn cael ei gyflawni ar amser.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
14 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Oherwydd y cafodd
gwelliant 1 ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.
Gwelliant 2
- Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu ‘yn galw
ar Lywodraeth Cymru i hwyluso sefydlu’ a rhoi yn ei le ‘yn
pryderu am y diffyg manylion sydd ar
gael ar
gyfer’.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl ‘Lywodraeth
Cymru i’ a rhoi yn ei le:
archwilio dulliau
arloesol, cydweithredol y
gall Llywodraeth Cymru ac eraill, megis awdurdodau
lleol a’r sector preifat, reoli asedau a chodi cyfalaf ar gyfer
ei fuddsoddi mewn seilwaith ar gyfer y gwasanaeth
cyhoeddus, a pharhau i archwilio ffyrdd cynaliadwy a hyblyg eraill o fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ar ôl ‘seilwaith’ rhoi 'ond yn
galw ar Lywodraeth
Cymru i archwilio dichonoldeb cynllun o’r fath o fewn
y setliad datganoli ariannol presennol.’
Gwelliant 5 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod, er mwyn bod mewn safle cryfach i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith, bod angen mwy o hunanreolaeth ariannol ar Gymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
11 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4741
Dileu’r cyfan
a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) Ystyried yr
holl gyfleoedd i godi cyfalaf ar
gyfer prosiectau seilwaith; a
b) Sicrhau bod mwy o ddadansoddi costau mewn prosiectau
adeiladwaith mawr er mwyn cael
mwy o gyfrifoldeb dros gyllidebau a bod gwaith yn cael
ei gyflawni ar amser.
2.Yn cydnabod, er mwyn bod mewn safle cryfach i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith, bod angen mwy o hunanreolaeth ariannol ar Gymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
1 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 23/06/2011
Dyddiad y penderfyniad: 22/06/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad