Manylion y penderfyniad
Debate on Ensuring Wider Access to our Heritage and Culture
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.51
NDM5401Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
cydnabod pwysigrwydd ehangu mynediad i dreftadaeth a diwylliant i bawb, gan annog
pobl o bob rhan o gymdeithas i gymeryd rhan a sicrhau bod unrhyw rwystrau i
gyfranogi yn cael eu dileu.
2.
Nodi'r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan ein sector treftadaeth a diwylliant i
wella mynediad ac i sicrhau y gall bawb yng Nghymru gymeryd rhan mewn
gweithgarwch ddiwylliannol, neu gael mynediad i'n safleoedd treftadaeth a chael
profiad gwerthfawr.
3. Nodi
y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau'r gwaith o gryfhau'r dull hwn o weithio drwy
ddatblygu proses o weithio mewn partneriaeth effeithiol ar draws bob adran a
chyda'r sector treftadaeth a diwylliant yng Nghymru yn ehangach.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r ymgynghoriad ystyrlon, “Dyfodol ein Gorffennol”, ac
yn croesawu dylanwad yr ymatebion hynny ar benderfyniad y Gweinidog ynghylch
dyfodol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau prosesau monitro ac
adrodd cyson ar gyfer yr holl gamau a gymerir i annog pobl i ymwneud mwy â
threftadaeth a diwylliant ac i gyfrannu mwy atynt, a fydd yn ddigon i ddarparu
gwerthusiad cadarn.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant
3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau ein bod yn cadw arbenigedd yn ein sefydliadau
treftadaeth fel na fyddwn yn colli‘r gallu i ddehongli ein gorffennol yn sgîl
colli swyddi.
b) cyflwyno prentisiaethau treftadaeth fel ffordd o sicrhau
bod ein dealltwriaeth o’n treftadaeth yn cael ei throsglwyddo i genedlaethau'r
dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
13 |
0 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn canmol gwaith Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd swyddi’r staff yn ddiogel yn y tymor
hir.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant.
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo Comisiwn Brenhinol
Henebion Cymru i ymchwilio i’r broses o gael statws elusennol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
44 |
10 |
0 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag amgueddfeydd,
orielau a chasgliadau celf a threftadaeth eraill i sicrhau y gellir rhoi
benthyg eitemau nad ydynt yn cael eu harddangos yng Nghymru i gyfleusterau
eraill.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5401Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
cydnabod pwysigrwydd ehangu mynediad i dreftadaeth a diwylliant i bawb, gan
annog pobl o bob rhan o gymdeithas i gymeryd rhan a sicrhau bod unrhyw rwystrau
i gyfranogi yn cael eu dileu.
2.
Nodi'r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan ein sector treftadaeth a diwylliant i
wella mynediad ac i sicrhau y gall bawb yng Nghymru gymeryd rhan mewn
gweithgarwch ddiwylliannol, neu gael mynediad i'n safleoedd treftadaeth a chael
profiad gwerthfawr.
3. Nodi
y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau'r gwaith o gryfhau'r dull hwn o weithio drwy
ddatblygu proses o weithio mewn partneriaeth effeithiol ar draws bob adran a
chyda'r sector treftadaeth a diwylliant yng Nghymru yn ehangach.
4. Yn nodi’r ymgynghoriad ystyrlon, “Dyfodol ein Gorffennol”,
ac yn croesawu dylanwad yr ymatebion hynny ar benderfyniad y Gweinidog ynghylch
dyfodol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau prosesau monitro ac
adrodd cyson ar gyfer yr holl gamau a gymerir i annog pobl i ymwneud mwy â
threftadaeth a diwylliant ac i gyfrannu mwy atynt, a fydd yn ddigon i ddarparu
gwerthusiad cadarn.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau ein bod yn cadw arbenigedd yn ein sefydliadau
treftadaeth fel na fyddwn yn colli‘r gallu i ddehongli ein gorffennol yn sgîl
colli swyddi.
b) cyflwyno prentisiaethau treftadaeth fel ffordd o sicrhau
bod ein dealltwriaeth o’n treftadaeth yn cael ei throsglwyddo i genedlaethau'r
dyfodol.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo Comisiwn
Brenhinol Henebion Cymru i ymchwilio i’r broses o gael statws elusennol.
8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag amgueddfeydd,
orielau a chasgliadau celf a threftadaeth eraill i sicrhau y gellir rhoi
benthyg eitemau nad ydynt yn cael eu harddangos yng Nghymru i gyfleusterau
eraill.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 22/01/2014
Dyddiad y penderfyniad: 21/01/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad