Manylion y penderfyniad

Supplementary Legislative Consent Motion on the Children and Families Bill in relation to section 38 of the Children and Young Persons Act 1963 (child performances)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Cyflwynodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Plant a Theuluoedd.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.41

NDM5390 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd, sy’n ymwneud â diddymu adran 38 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963, i’r graddau y mae’n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 22/01/2014

Dyddiad y penderfyniad: 21/01/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad