Manylion y penderfyniad

Dadl Plaid Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.46

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5405 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod dros flwyddyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi ffigurau cyfrifiad 2011 sy’n dangos bod gostyngiad o 2 y cant yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn galluogi’r Gymraeg i ffynnu drwy, ymysg pethau eraill:

 

a) sicrhau bod gan bawb yng Nghymru’r cyfle i ddysgu Cymraeg;

 

b) buddsoddi mewn gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg;

 

c) cynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn y Cyfnod Sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg;

 

d) defnyddio’r potensial o dan Fesur y Gymraeg 2011 i osod safonau ar gyfer y Gymraeg sy’n rhoi hawliau cryfach i siaradwyr Cymraeg na chynlluniau iaith o dan Ddeddf Iaith 1993;

 

e) annog cyrff cyhoeddus i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith weinyddol yn fewnol;

 

f) creu cyfleoedd economaidd a swyddi yng nghadarnleoedd y Gymraeg drwy hybu datblygiad Bangor a Menai, Aberystwyth a Chaerfyrddin fel dinas-ranbarthau;

 

g) sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chymryd o ddifrif yn y system gynllunio.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

43

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi methiannau Llywodraeth Cymru o ran bodloni’r safonau yn llawn wrth hybu’r defnydd o ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol mewn bywyd cyhoeddus, fel y nodir yn Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ‘yn effeithiol’ ar ddiwedd is-bwynt 2a.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

14

52

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwynt 2f a rhoi yn ei le:

 

cefnogi cadarnleoedd y Gymraeg yng ngorllewin Cymru drwy ddatblygu strategaeth economaidd ar gyfer yr ardaloedd hyn, sy’n adlewyrchu eu cymeriad ac sydd wedi’u teilwra’n unol â'u hanghenion

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

21

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gan fod gwelliant 3 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

manteisio ar y cyllid ychwanegol ar gyfer Dechrau'n Deg i wella’r broses o hyrwyddo'r Gymraeg ymysg plant ifanc a'u teuluoedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

gweithio gydag oedolion sy’n dysgu Cymraeg er mwyn creu cyfleoedd i siarad Cymraeg yn eu cymunedau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

rhoi sylw i’r anawsterau a wynebwyd yn lleol o ran derbyn darllediadau yn y Gymraeg ers newid i’r digidol ar gyfer teledu yn 2010.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

rhoi sylw i’r gwendidau yn narpariaeth Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 8.

 

Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

sicrhau y caiff Comisiynydd y Gymraeg ei benodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

35

52

Gwrthodwyd gwelliant 9.

 

Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

sicrhau bod Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg yn gadarn ac yn cynnwys mesurau y mae modd eu cyflawni i gwrdd â’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac i sicrhau dilyniant rhwng yr addysg gynradd ac uwchradd a gynigir.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 10.

 

Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

sicrhau bod unrhyw werthusiad o’r rhaglen Dechrau’n Deg yn rhoi sylw i’r ddarpariaeth Gymraeg.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 11.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5405 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod dros flwyddyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi ffigurau cyfrifiad 2011 sy’n dangos bod gostyngiad o 2 y cant yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn galluogi’r Gymraeg i ffynnu drwy, ymysg pethau eraill:

 

a) sicrhau bod gan bawb yng Nghymru’r cyfle i ddysgu Cymraeg yn effeithiol;

 

b) buddsoddi mewn gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg;

 

c) cynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn y Cyfnod Sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg;

 

d) defnyddio’r potensial o dan Fesur y Gymraeg 2011 i osod safonau ar gyfer y Gymraeg sy’n rhoi hawliau cryfach i siaradwyr Cymraeg na chynlluniau iaith o dan Ddeddf Iaith 1993;

 

e) annog cyrff cyhoeddus i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith weinyddol yn fewnol;

 

f) cefnogi cadarnleoedd y Gymraeg yng ngorllewin Cymru drwy ddatblygu strategaeth economaidd ar gyfer yr ardaloedd hyn, sy’n adlewyrchu eu cymeriad ac sydd wedi’u teilwra’n unol â'u hanghenion;

 

g) sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chymryd o ddifrif yn y system gynllunio;

 

h) manteisio ar y cyllid ychwanegol ar gyfer Dechrau'n Deg i wella’r broses o hyrwyddo'r Gymraeg ymysg plant ifanc a'u teuluoedd;

 

i) gweithio gydag oedolion sy’n dysgu Cymraeg er mwyn creu cyfleoedd i siarad Cymraeg yn eu cymunedau;

 

j) rhoi sylw i’r anawsterau a wynebwyd yn lleol o ran derbyn darllediadau yn y Gymraeg ers newid i’r digidol ar gyfer teledu yn 2010;

 

k) rhoi sylw i’r gwendidau yn narpariaeth Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion;

 

l) sicrhau bod Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg yn gadarn ac yn cynnwys mesurau y mae modd eu cyflawni i gwrdd â’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac i sicrhau dilyniant rhwng yr addysg gynradd ac uwchradd a gynigir;

 

m) sicrhau bod unrhyw werthusiad o’r rhaglen Dechrau’n Deg yn rhoi sylw i’r ddarpariaeth Gymraeg.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

12

0

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 23/01/2014

Dyddiad y penderfyniad: 22/01/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad