Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.01
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
NDM5399
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu ac i weithredu
cynllun gweithlu GIG cenedlaethol newydd ar gyfer y degawd nesaf ac i gynyddu’r
gweithlu meddygol yn sylweddol yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
47 |
58 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu ‘ac i gynyddu’r gweithlu meddygol yn sylweddol yng
Nghymru’ a rhoi yn ei le ‘i fynd i’r afael â heriau recriwtio yng ngwasanaeth
iechyd Cymru’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
11 |
58 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae’n bwriadu
defnyddio’r £180 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i wasanaeth iechyd Cymru ar
gyfer 2014-15 yn dilyn argymhellion Adroddiad Francis, er mwyn ymateb i
faterion o ran y gweithlu yn GIG Cymru.
Mae Adroddiad Francis ar gael yn:
http://www.midstaffspublicinquiry.com/report
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
58 |
0 |
0 |
58 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu mai ychydig iawn o effaith y mae ymgyrchoedd
recriwtio Llywodraeth Cymru, fel Gweithio dros Gymru, wedi ei chael o ran
lliniaru’r prinder o glinigwyr mewn rhai disgyblaethau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
30 |
59 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod ansicrwydd ynghylch dyfodol gwasanaethau mewn
rhai ysbytai yng Nghymru wedi bod yn anfanteisiol wrth geisio recriwtio staff.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
30 |
59 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r gwariant uchel ar staff locwm ac asiantaeth ar draws
byrddau iechyd yng Nghymru o ganlyniadau i heriau o ran y gweithlu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
30 |
59 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant
6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
cydnabod bod angen GIG sydd ag adnoddau priodol a phwysigrwydd buddsoddi mewn
hyfforddiant a swyddi parhaol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
57 |
0 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig wedi’i ddiwygio:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu ac i weithredu
cynllun gweithlu GIG cenedlaethol newydd ar gyfer y degawd nesaf i fynd i’r
afael â heriau recriwtio yng ngwasanaeth iechyd Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae’n
bwriadu defnyddio’r £180 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i wasanaeth iechyd
Cymru ar gyfer 2014-15 yn dilyn argymhellion Adroddiad Francis, er mwyn ymateb
i faterion o ran y gweithlu yn GIG Cymru.
Mae Adroddiad Francis ar gael yn:
http://www.midstaffspublicinquiry.com/report
3. Yn cydnabod bod angen GIG sydd ag adnoddau priodol a
phwysigrwydd buddsoddi mewn hyfforddiant a swyddi parhaol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
30 |
59 |
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd. Felly,
gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 16/01/2014
Dyddiad y penderfyniad: 15/01/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad