Manylion y penderfyniad
Questions to the Minister for Housing and Regeneration
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y
Cynulliad i Weinidogion Cymru am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.
Bydd Gweinidogion Cymru yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair
wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer
Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a
gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn
llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir
cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod
Llawn.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd cwestiynau 1 - 11 a 13 – 14. Tynnwyd cwestiwn
12 yn ôl.
Dyddiad cyhoeddi: 12/12/2013
Dyddiad y penderfyniad: 11/12/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad