Manylion y penderfyniad

Dadl Plaid Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.49

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5379 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) mai'r bwlch cyllido a amcangyfrifir rhwng y galw am gyllid gan fusnesau Cymru a'r cyflenwad presennol o'r sector bancio yw £500 miliwn;

b) bod ardrethi annomestig yn cyfrif am gyfran sylweddol o gostau gweithredu ar gyfer microfusnesau a busnesau bach;

c) bod cynnydd o 1% yng nghyfradd contractau caffael y sector cyhoeddus sy'n mynd i fusnesau Cymru yn creu 2,000 o swyddi newydd; a

d) bod adnoddau naturiol Cymru yn cynnig cryn botensial ar gyfer budd economaidd.

2. Yn gresynu:

a) mai’r GYC y pen yng Nghymru yw'r isaf o blith pob un o wledydd y DU sef cyfradd o 75.2% o ffigur y DU;

b) bod dulliau macro-economaidd yn aros yn nwylo Aelodau Seneddol yn Senedd y DU ond yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru rôl sylweddol i'w chwarae o ran tyfu economi Cymru;

c) absenoldeb dangosyddion economaidd cyfredol i Gymru;

d) methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â diweithdra a thangyflogaeth; a

e) methiant cyrff y sector cyhoeddus i weithredu Polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi cynllun cynhwysfawr a hirdymor ar gyfer tyfu economi Cymru;

b) bwysleisio i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr angen i ddarparu dangosyddion economaidd rheolaidd a mynych i Gymru;

c) mabwysiadu polisi Plaid Cymru i estyn rhyddhad ardrethi busnesau bach i bob busnes â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai; a

d) archwilio manteision sefydlu banc datblygu busnes cyhoeddus, hyd braich, nid er elw i'w ddosbarthu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

46

56

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt 1a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

y twf yng Nghynnyrch Mewnwladol Crynswth y DU yn 2013;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

10

56

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt 1a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

bod 29.8% o bobl Cymru yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus, sy’n uwch na 23.5%, sef cyfartaledd y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

bod economi’r DU wedi cynyddu 0.8% yn ystod trydydd chwarter 2013, sy’n pwysleisio llwyddiant polisi economaidd Llywodraeth y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

37

55

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt 2a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

bod oddeutu 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cael trafferth cael gafael ar gyllid, yn ôl adroddiad Cam 1 o’r ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru’ gan yr Athro Dylan Jones-Evans.

Gellir gweld yr ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru’ yn: http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/publications/accesstofinance/?skip=1&lang=cy

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt 2b) a rhoi yn ei le:

methiant Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r ysgogiadau economaidd sylweddol sydd ar gael iddi er mwyn sbarduno twf yn economi Cymru;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

43

56

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt 2e).

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

10

56

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt 3c) a rhoi yn ei le:

mabwysiadu polisi’r Ceidwadwyr Cymreig i ymestyn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000, a darparu rhyddhad sy’n lleihau’n raddol i’r rheini sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

43

56

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu is-bwynt 3c) a rhoi yn ei le:

ymestyn rhyddhad ardrethi busnes i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai, ac i fwy o gyfleusterau cymunedol fel swyddfeydd post, tafarndai a siopau annibynnol; a

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

38

56

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt 3d) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

rhoi cyfle i awdurdodau lleol gadw cyfran o’r ardrethi busnes y maent yn eu casglu er mwyn ysgogi twf economaidd lleol;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt 3d) a rhoi yn ei le:

ymateb cyn gynted â phosibl i adroddiad yr Adolygiad o'r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru – Cam 2, ac ystyried yr achos dros ddatblygu banciau busnes rhanbarthol fel yr amlinellwyd yn ‘Buddsoddi Cymru’.

Gellir gweld adroddiad yr ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru – Cam 2’ yn:

http://wales.gov.uk/docs/det/publications/131121accesstofund2en.pdf

Gellir gweld ‘Buddsoddi Cymru’ yn:

http://yourvoiceintheassembly.co.uk/wp-content/uploads/2013/01/Buddsoddi-Cymru-FINAL1.pdf

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

15

56

Derbyniwyd gwelliant 10.

Gwelliant 11 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

ystyried y posibilrwydd o rannu lluosydd Cymru yn fusnesau bach a mawr, a fyddai'n sicrhau bod y system ardrethi busnes yn deg a bod Cymru ar yr un lefel â Lloegr a'r Alban.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 11.

Gwelliant 12 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

sicrhau bod polisïau’r llywodraeth yn symleiddio ein rheoliadau a’n prosesau caffael ar gyfer y sector cyhoeddus.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 12.

Gwelliant 13 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

cefnogi mentrau cymdeithasol a busnesau llai a'u galluogi i dyfu drwy ddadfwndelu contractau'r sector cyhoeddus yn rhannau mwy hylaw, gan ei gwneud yn haws i'r busnesau hyn gyflwyno cynigion a chystadlu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 13:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 13.

Gwelliant 14 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau o gyfleoedd cyllid sy’n bodoli ar hyn o bryd, a gwrando ar y gymuned fusnes ynghylch ffyrdd o wella cymorth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 14:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 14.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5379 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) y twf yng Nghynnyrch Mewnwladol Crynswth y DU yn 2013;

b) mai'r bwlch cyllido a amcangyfrifir rhwng y galw am gyllid gan fusnesau Cymru a'r cyflenwad presennol o'r sector bancio yw £500 miliwn;

c) bod ardrethi annomestig yn cyfrif am gyfran sylweddol o gostau gweithredu ar gyfer microfusnesau a busnesau bach;

d) bod cynnydd o 1% yng nghyfradd contractau caffael y sector cyhoeddus sy'n mynd i fusnesau Cymru yn creu 2,000 o swyddi newydd; ac

e) bod adnoddau naturiol Cymru yn cynnig cryn botensial ar gyfer budd economaidd.

2. Yn gresynu:

a) bod oddeutu 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cael trafferth cael gafael ar gyllid, yn ôl adroddiad Cam 1 o’r ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru’ gan yr Athro Dylan Jones-Evans.

b) mai’r GYC y pen yng Nghymru yw'r isaf o blith pob un o wledydd y DU sef cyfradd o 75.2% o ffigur y DU;

c) bod dulliau macro-economaidd yn aros yn nwylo Aelodau Seneddol yn Senedd y DU ond yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru rôl sylweddol i'w chwarae o ran tyfu economi Cymru;

d) absenoldeb dangosyddion economaidd cyfredol i Gymru; ac

e) methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â diweithdra a thangyflogaeth; a

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi cynllun cynhwysfawr a hirdymor ar gyfer tyfu economi Cymru;

b) bwysleisio i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr angen i ddarparu dangosyddion economaidd rheolaidd a mynych i Gymru;

c) mabwysiadu polisi Plaid Cymru i estyn rhyddhad ardrethi busnesau bach i bob busnes â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai;

d) ymateb cyn gynted â phosibl i adroddiad yr Adolygiad o'r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru – Cam 2, ac ystyried yr achos dros ddatblygu banciau busnes rhanbarthol fel yr amlinellwyd yn ‘Buddsoddi Cymru’;

e) ystyried y posibilrwydd o rannu lluosydd Cymru yn fusnesau bach a mawr, a fyddai'n sicrhau bod y system ardrethi busnes yn deg a bod Cymru ar yr un lefel â Lloegr a'r Alban;

f) sicrhau bod polisïau’r llywodraeth yn symleiddio ein rheoliadau a’n prosesau caffael ar gyfer y sector cyhoeddus;

g) cefnogi mentrau cymdeithasol a busnesau llai a'u galluogi i dyfu drwy ddadfwndelu contractau'r sector cyhoeddus yn rhannau mwy hylaw, gan ei gwneud yn haws i'r busnesau hyn gyflwyno cynigion a chystadlu; a

h) gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau o gyfleoedd cyllid sy’n bodoli ar hyn o bryd, a gwrando ar y gymuned fusnes ynghylch ffyrdd o wella cymorth.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

46

56

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 05/12/2013

Dyddiad y penderfyniad: 04/12/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad