Manylion y penderfyniad

Dadl Plaid Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.59

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5362 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn Nodi:

a) canfyddiadau adroddiad ar newid yn yr hinsawdd gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd ei bod 95% yn sicr mai dylanwad dynol ar yr hinsawdd a achosodd dros hanner o'r cynnydd a nodwyd mewn tymereddau arwyneb cyfartalog o 1951-2010;

b) dibyniaeth barhaus Cymru ar danwyddau ffosil ar gyfer ynni, sy'n darparu tua 80% o'r anghenion ynni;

c) mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y defnydd o  adnoddau nwy siâl Cymru, ynghyd â rheoli unrhyw fudd sy'n deillio ohono;

d) methiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o gynhyrchu 4TWh o drydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2010;

e) er gwaethaf y ffaith bod Cymru yn allforiwr net trydan, mae biliau'n uwch yng Nghymru nag yn Lloegr neu'r Alban;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu ‘Map Llwybrmanwl a Chynllun Gweithredu a fydd yn arwain at dargedau ynni adnewyddadwy 2020, gan ddangos targedau ar gyfer pob math unigol o ynni a'r camau a gymerir i gyrraedd y targedau hynny;

b) rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i ddatganoli yn llawn y portffolio ynni a rheoli adnoddau naturiol Cymru i'r Cynulliad Cenedlaethol;

c) cadarnhau gydag Ofgem a'r Grid Cenedlaethol a oes unrhyw ymchwil wedi'i gwneud i gost a hyfywedd cebl tanfor sy'n cysylltu'r Grid Cenedlaethol rhwng gogledd a de Cymru, ac os felly darparu copi o'r ymchwil honno;

d) ymchwilio i'r potensial i sefydlu cwmni ynni cyhoeddus, di-ddifidend i fuddsoddi mewn ynni er budd pobl Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

10

48

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 21/11/2013

Dyddiad y penderfyniad: 20/11/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad