Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.25
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5344
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu'r
Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
2.
Yn cydnabod rôl trafnidiaeth o ran cysylltu Cymru yn fewnol ac yn allanol.
3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a)
ceisio cyllid
canlyniadol Barnett parhaus
neu unrhyw setliad ariannol digolledu arall mewn perthynas â phrosiect HS2 Llywodraeth y DU;
b)
adolygu gweithrediad
y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol
a llywodraethu trafnidiaeth
yn gyffredinol;
c)
ailddatgan ei hymrwymiad i drafnidiaeth gyhoeddus integredig; a
d)
cyflwyno sylwadau
i Lywodraeth y DU, i sicrhau
bod coridorau trafnidiaeth gogledd a de Cymru wedi'u cynnwys yn rhwydwaith
craidd newydd TEN-T y Comisiwn Ewropeaidd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
17 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 07/11/2013
Dyddiad y penderfyniad: 06/11/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad