Manylion y penderfyniad
Debate on the Bevan Commission
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Ymchwiliad ar droed
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
NNDM4730 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. yn croesawu adroddiad Comisiwn Bevan
"2008 – 2011 NHS Wales: Forging a better future" a
2. yn nodi'r dadleuon sydd ynddo o blaid:
a) cydnabod yr heriau anodd sy'n wynebu'r GIG
yn y dyfodol;
b) cefnogi newidiadau i wasanaethau sy'n
hanfodol er mwyn diogelu dyfodol y GIG;
c) cefnogi camau gweithredu yn y maes
clinigol i wella diogelwch ac ansawdd y gofal a roddir i gleifion; a
d) creu gwir bartneriaeth gyda'r cyhoedd er
mwyn sicrhau bod yr ethos a oedd yn sail i sefydlu'r GIG yng Nghymru yn cael ei
gynnal yn y dyfodol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Sir Fynwy)
Ym mhwynt 1, dileu “Yn croesawu” a rhoi “Yn
nodi” yn ei le.
Gwelliant 2 - Nick Ramsay (Sir Fynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn siomedig â chynigion Llywodraeth Cymru i
leihau cyllidebau’r GIG dros y 3 blynedd nesaf.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig
Yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi cynllun
manwl, gyda thargedau y gellir eu mesur, i wneud yn siŵr y gall y gwasanaeth iechyd ymateb i’r
heriau a nodir yn yr adroddiad.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi
ymateb manwl a chynhwysfawr i’r adroddiad mewn modd sy’n dangos ei hymrwymiad i
GIG cynaliadwy, gan gynnwys:
a) gwella canlyniadau cleifion;
b) atal gwasanaethau rhag cael eu cwtogi;
c) mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
iechyd;
d) sicrhau'r manteision iechyd mwyaf posibl
yng nghyswllt meysydd polisi eraill; ac
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal
gwasanaethau’r GIG rhag cael eu canoli, a chadarnhau ei hymrwymiad i gynnal
Ysbytai Cyffredinol Dosbarth sy’n hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau iechyd
lleol.
Mae copi o adroddiad Comisiwn Bevan
"2008 – 2011 NHS Wales: Forging a better future" i'w weld yn
http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/reports/betterfuture/?skip=1&lang=cy
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Sir Fynwy)
Ym mhwynt 1, dileu “Yn croesawu” a rhoi “Yn nodi”
yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
29 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Nick Ramsay (Sir Fynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn siomedig â chynigion Llywodraeth Cymru i leihau cyllidebau’r GIG dros y 3 blynedd nesaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
42 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig
Yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi cynllun manwl, gyda thargedau y gellir eu mesur,
i wneud yn siŵr
y gall y gwasanaeth iechyd ymateb i’r heriau
a nodir yn yr adroddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
10 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ymateb manwl a chynhwysfawr i’r adroddiad mewn modd sy’n dangos ei hymrwymiad i GIG cynaliadwy, gan gynnwys:
a) gwella canlyniadau cleifion;
b) atal gwasanaethau rhag cael eu cwtogi;
c) mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd;
d) sicrhau'r manteision iechyd mwyaf posibl yng nghyswllt meysydd polisi eraill; ac
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal gwasanaethau’r GIG rhag cael eu canoli,
a chadarnhau ei hymrwymiad i gynnal Ysbytai Cyffredinol Dosbarth sy’n hanfodol
er mwyn darparu
gwasanaethau iechyd lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NNDM4730 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. yn croesawu
adroddiad Comisiwn Bevan
"2008 – 2011 NHS Wales: Forging a better future" a
2. yn nodi'r
dadleuon sydd ynddo o blaid:
a) cydnabod yr
heriau anodd sy'n wynebu'r GIG yn y dyfodol;
b) cefnogi newidiadau
i wasanaethau sy'n hanfodol er mwyn
diogelu dyfodol y GIG;
c) cefnogi camau
gweithredu yn y maes clinigol i wella diogelwch ac ansawdd y gofal a roddir i gleifion; a
d) creu gwir bartneriaeth gyda'r cyhoedd er mwyn sicrhau bod yr ethos a oedd yn sail i sefydlu'r GIG yng Nghymru yn cael ei gynnal yn y dyfodol.
3. Yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi cynllun manwl, gyda thargedau y gellir eu mesur,
i wneud yn siŵr
y gall y gwasanaeth iechyd ymateb i’r heriau
a nodir yn yr adroddiad.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyhoeddi ymateb manwl a chynhwysfawr i’r adroddiad mewn
modd sy’n dangos ei hymrwymiad
i GIG cynaliadwy, gan gynnwys:
a) gwella canlyniadau cleifion;
b) atal gwasanaethau rhag cael eu cwtogi;
c) mynd i’r afael ag
anghydraddoldebau iechyd;
d) sicrhau'r manteision iechyd mwyaf posibl yng
nghyswllt meysydd polisi eraill; ac
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal gwasanaethau’r GIG rhag cael eu canoli,
a chadarnhau ei hymrwymiad i gynnal Ysbytai Cyffredinol Dosbarth sy’n hanfodol
er mwyn darparu
gwasanaethau iechyd lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
12 |
0 |
54 |
Derbyniwyd
y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 15/06/2011
Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad