Manylion y penderfyniad

Dadl Plaid Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.28

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5324 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn condemnio bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio'r Post Brenhinol;

2. Yn cydnabod bod preifateiddio yn agor y drws i fygythiadau i wasanaethau post yng Nghymru wledig a threfol yn y dyfodol;

3. Yn nodi pwysigrwydd y Post Brenhinol i Rwydwaith Swyddfa’r Post;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar bwysigrwydd gwasanaethau post sy'n atebol i'r cyhoedd i economi Cymru ac i gymunedau Cymru; a

b) ystyried cynnig Plaid Cymru ar gyfer datganoli gwasanaethau post er mwyn diogelu gwasanaeth cyffredinol a fforddiadwy.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

45

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1) Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio’r Post Brenhinol.

2) Yn cydnabod:

a) y bydd preifateiddio yn diogelu’r gwasanaeth cyffredinol, yn galluogi’r Post Brenhinol i gasglu arian yn yr un modd â'i gystadleuwyr, ac yn rhoi cyfranddaliadau am ddim i’r 150,000 o bobl sy’n gweithio i’r Post Brenhinol; a

b) y bydd gan y Post Brenhinol wedi’i breifateiddio gyfrifoldeb cyfreithiol o hyd i ddanfon i bob cyfeiriad, boed mewn ardal drefol neu wledig, o dan ofynion sylfaenol y Gwasanaeth Cyffredinol.

3) Yn cydnabod pa mor bwysig yw’r Post Brenhinol i rwydwaith Swyddfa’r Post, nad yw Swyddfa’r Post ar werth, ac na fydd cynllun i gau Swyddfeydd Post o dan Lywodraeth bresennol y DU.  

4) Yn gresynu bod 7,000 o Swyddfeydd Post wedi cael eu cau o dan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU.

5) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ei rhaglen £1.34 biliwn i gynnal rhwydwaith sy’n cynnwys o leiaf 11,500 o ganghennau Swyddfa’r Post ledled y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

36

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ym mhwynt 1, dileuYn condemnio” a rhoiYn nodiyn ei le. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

36

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn rhannu pryderon yr undebau llafur ynghylch y bygythiad posibl i weithlu’r Post Brenhinol yng Nghymru;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

13

5

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn trosglwyddo rhwymedigaethau hanesyddol o oddeutu £37.5 biliwn o Gynllun Pensiwn y Post Brenhinol i Gynllun Pensiwn Statudol newydd y Post Brenhinol. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

9

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wasanaeth post cyffredinol, chwe diwrnod yr wythnos, a ddiogelir gan y gyfraith yn Neddf Gwasanaethau Post 2011.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

9

54

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:

ac nad yw’r bwriad i breifateiddio yn cynnwys Swyddfa’r Post.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

36

54

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi ymdrechion niferus y Blaid Lafur i breifateiddio’r Post Brenhinol hyd at 2009 a'r rhaglen i gau Swyddfeydd Post, lle cafodd 216 o swyddfeydd post eu cau yng Nghymru o dan y Blaid Lafur rhwng mis Hydref 2007 a mis Ionawr 2009;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu’r ffaith nad oes unrhyw swyddfeydd post wedi cau ers 2010 o ganlyniad i bolisi Llywodraeth Glymblaid y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

36

53

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu is-bwynt 4b.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

1

8

54

Derbyniwyd gwelliant 9.

Gan fod gwelliant 9 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 10 ei ddad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5324 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn condemnio bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio'r Post Brenhinol;

2. Yn rhannu pryderon yr undebau llafur ynghylch y bygythiad posibl i weithlu’r Post Brenhinol yng Nghymru;

3. Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn trosglwyddo rhwymedigaethau hanesyddol o oddeutu £37.5 biliwn o Gynllun Pensiwn y Post Brenhinol i Gynllun Pensiwn Statudol newydd y Post Brenhinol;

4. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wasanaeth post cyffredinol, chwe diwrnod yr wythnos, a ddiogelir gan y gyfraith yn Neddf Gwasanaethau Post 2011;

5. Yn nodi pwysigrwydd y Post Brenhinol i Rwydwaith Swyddfa’r Post;

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar bwysigrwydd gwasanaethau post sy'n atebol i'r cyhoedd i economi Cymru ac i gymunedau Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

18

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 10/10/2013

Dyddiad y penderfyniad: 09/10/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad