Manylion y penderfyniad

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol:

 

“Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno, yn ogystal â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642 ac NNDM4722, y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau pellach hynny s gynigir yn y Bil Lleoliaeth mewn perthynas â Chynlluniau Blaendaliadau Tenantiaid a thrwyddedu HMOs, i'r graddau y maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”

 

Cefndir

 

Mae Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol (NNDM4642 ac NNDM4722) yn ymwneud â'r Bil Lleoliaeth wedi'i gyflwyno eisoes yn y Cynulliad Cenedlaethol, a rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol ei gydsyniad i ddarpariaethau perthnasol y Bil, i'r graddau eu bod yn dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol, gael eu hystyried gan y Senedd.

 

Mae’r Bil Lleoliaeth yn Bil Senedd y DU. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Senedd y DU

Penderfyniad:

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 15/06/2011

Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2011

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol: