Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.51
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5311
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod yr angen i integreiddio
gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn
darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i bobl mewn angen;
a
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddefnyddio
cyfle'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol i weithredu'r integreiddio hwn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
15 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 03/10/2013
Dyddiad y penderfyniad: 02/10/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad