Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.58
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5304
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru
1.
Yn nodi bod galwad olaf am dystiolaeth y Comisiwn ar Ddatganoli yng
Nghymru (Comisiwn Silk) yn dod i ben ddydd
Gwener, 27 Medi 2013.
2.
Yn nodi bod y gwaith ymchwil a wnaethpwyd ar ran Comisiwn Silk yn dangos cefnogaeth sylweddol dros roi rhagor o bwerau
i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth
benodol dros drosglwyddo pwerau ynni adnewyddadwy (70%), plismona (63%) a darlledu a rheoleiddio’r cyfryngau (58%).
3.
Yn nodi ymhellach
y gefnogaeth a welwyd y llynedd dros drosglwyddo
pwerau ariannol, gyda 64% yn cefnogi
trosglwyddo pwerau treth incwm i Lywodraeth
Cymru, 80% yn cefnogi pwerau benthyca ar gyfer
prosiectau seilwaith, a 72%
o blaid trethi
‘cymell’.
4.
Yn mynegi pryder bod Llywodraeth y DU wedi oedi cymaint
cyn ymateb i adroddiad cyntaf Comisiwn Silk, ac yn galw ar Lywodraeth
y DU i lynu wrth yr amserlen a nodwyd
gan Gomisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cyhoeddi eu hymatebion
yn brydlon i’r ail adroddiad pan gaiff ei gyhoeddi’r
gwanwyn nesaf.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
18 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 26/09/2013
Dyddiad y penderfyniad: 25/09/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/09/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad