Manylion y penderfyniad
Motion to approve the general principles of the Agricultural Sector (Wales) Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bil Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Alun Davies AC,
Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd. Bil Brys yw Bil Llywodraeth y mae angen ei
wneud yn Ddeddf yn gynt nag y mae proses ddeddfu pedwar cyfnod arferol y
Cynulliad yn ei ganiatáu. Ni ddarperir diffiniad o Fil Brys yn Neddf
Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) nac yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad. Fodd
bynnag, dywed Rheol Sefydlog 26.95:
“Os yw’n
ymddangos i aelod o’r llywodraeth fod angen Bil Brys, caiff gynnig bod Bil
llywodraeth, a gyflwynir yn y Cynulliad, yn cael ei drin fel Bil Brys
llywodraeth.”
Fel yn achos pob
Bil Cynulliad, rhaid i Filiau Brys ymwneud ag un neu fwy o’r 20 Maes a gynhwysir
yn Atodlen 7 i Ddeddf 2006 er mwyn iddynt fod o fewn cwmpas pwerau
deddfwriaethol y Cynulliad.
Gwybodaeth am y Bil
Mae'r Bil yn
cynnwys darpariaethau sy'n:
- Cadw'r mesurau amddiffyn statudol presennol;
- Rhoi'r pwerau i Weinidogion Cymru wneud Gorchmynion
yn y dyfodol i bennu amodau a thelerau amaethyddol.
- Rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru
sefydlu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru i gynnal swyddogaethau
tebyg i’r rhai sydd gan y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ond wedi’u haddasu
fwy.
- Galluogi Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru i
gynnal swyddogaethau sy’n ymwneud â gweithrediad y sector amaethyddol, gan
gynnwys hyrwyddo gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth a gwneud argymhellion i
Weinidogion Cymru ynghylch pennu isafswm amodau a thelerau.
- Helpu i sefydlu sector amaethyddol cryf a chynaliadwy
yng Nghymru sydd â gweithlu wedi’i hyfforddi’n dda.
- Hybu ymdrechion i wella sgiliau yn y sector
amaethyddol.
Cyfnod presennol
Daeth Deddf
Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 yn gyfraith yng Nghymru ar
30 Gorffennaf 2014.
Ceir esboniad o beth sy'n digwydd ym mhob cyfnod yma.
|
Dogfennau |
Cynnig i drin y Bil fel Bil
Brys y Llywodraeth Cynnig i gytuno ar amserlen |
Cyflwynwyd
ar 25 Mehefin, i’w drafod ar 2
Gorffennaf 2013 |
|
Bil
Sector Amaethyddol (Cymru), fel y’i cyflwynwyd Datganiad
y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol: 8 Gorffennaf 2013 Crynodeb
o Fil y Gwasanaeth Ymchwil Geirfa’r
Gyfraith Bil Sector Amaethyddol (Cymru) |
Cyfnod 1 - Dadl Cyfnod 1 ar yr Egwyddorion Cyffredinol
(yn y Cyfarfod Llawn |
Cytunodd y Cynulliad ar
egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 9
Gorffennaf 2013. |
Penderfyniad Ariannol (os
oes angen) |
Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Sector
Amaethyddol (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 9
Gorffennaf 2013. |
|
Cofnod Cryno: 16
Gorffennaf 2013 Hysbysiad
Ynghylch Gwelliannau 10 Gorffennaf 2013 Hysbysiad
Ynghylch Gwelliannau 11 Gorffennaf 2013 Hysbysiad
Ynghylch Gwelliannau 12 Gorffennaf 2013 Rhestr
o Welliannau Wedi’u Didoli 16 Gorffennaf 2013 Grwpio
Gwelliannau 16 Gorffennaf 2013 Bil
Sector Amaethyddol (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (Caiff y
gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.) |
|
Rhestr
o Welliannau Wedi’u Didoli 17 Gorffennaf 2013 Grwpio
Gwelliannau 17 Gorffennaf 2013 Bil
Sector Amaethyddol (Cymru), fel y’i Pasiwyd (Caiff y gwelliannau i’r Bil
ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.) |
|
Cytunodd
y Cynulliad ar y Bil ar 17
Gorffennaf 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Bil
Sector Amaethyddol (Cymru), fel y’i pasiwyd (Crown XML) |
Ar ôl Cyfnod 4 |
Mae'r Twrnai Cyffredinol
wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i'w hysbysu y bydd yn
cyfeirio’r Bil at y Goruchaf Lys o dan Adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru
2006. Mae Prif Weithredwr a Chlerc
y Cynulliad wedi ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad i roi gwybod am
hynny. Mae’r llythyr hwn ar gael yma,
ynghyd â chopïau o lythyr y Twrnai
Cyffredinol a’r ymatebion gan y Cwnsler
Cyffredinol ac Ysgrifennydd
Gwladol Cymru. Cyfeiriwyd y Bil at y
Goruchaf Lys. Cafwyd dyfarniad
ar yr achos hwn ar 9 Gorffennaf 2014. (Saesneg yn unig). Dyfarnwyd bod y Bil o fewn
cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. |
Cydsyniad Brenhinol |
Rhoddwyd
Cydsyniad Brenhinol ar 30 Gorffennaf 2014. |
Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Bethan Davies
Ffôn: 029 2089 8120
Cyfeiriad Postio:
Cynulliad
Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 16.40
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5289
Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.102:
Yn
cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Sector Amaethyddol (Cymru)
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i ddilyn y
weithdrefn Bil Cyhoeddus lawn ar gyfer y Bil o ystyried y cyfle a gafodd i
wneud hynny, a fyddai wedi cynnwys;
a) pwyllgor yn craffu’n fanwl ar y Bil; a
b) cyfle i gael adroddiad pwyllgor manwl am y Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y Bil Brys wedi’i ddwyn gerbron y
Cynulliad cyn bod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ei hun wedi cau, a chyn bod yr
ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael i'w hystyried.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu y byddai’r Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru
bennu isafswm cyflog heb gyfeirio’r mater at banel annibynnol o gwbl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi y byddai panel cynghori a fyddai’n cael ei
sefydlu o dan y Bil o dan ddisgresiwn Gweinidogion Cymru, a fyddai'n rheoli:
a) cyfansoddiad a thrafodion y panel;
b) penodi aelodau i’r panel;
c) pwerau cyffredinol y panel, a
d) ychwanegu, dileu neu ddiwygio swyddogaethau’r panel.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi:
a) bod dibenion allweddol y Bil yn cynnwys swyddogaethau pennu
cyflogau, a
b)
nad yw cyfraith cyflogaeth wedi’i rhestru o dan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
34 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5289 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.102:
Yn cytuno i
egwyddorion cyffredinol Bil Sector Amaethyddol (Cymru)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
17 |
50 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 10/07/2013
Dyddiad y penderfyniad: 09/07/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/07/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad