Manylion y penderfyniad
Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau
Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6.1 Yn ei gyfarfod cyntaf ar ôl etholiad Cynulliad, rhaid i’r
Cynulliad ethol Llywydd a Dirprwy o blith ei Aelodau.
6.2 Os daw swydd y Llywydd neu swydd y Dirprwy yn wag, rhaid
i’r Cynulliad ethol Aelod cyn gynted â phosibl i lenwi'r swydd wag. Mae ethol
Llywydd yn cymryd blaenoriaeth dros bob busnes arall.
Penderfyniad:
Estynnodd y Llywydd wahoddiad am enwebiadau yn unol â Rheol
Sefydlog 6.6.
Cynigiodd
Jocelyn Davies enwebu William Graham.
Eiliwyd yr enwebiad gan
Peter Black.
Cynigiodd Simon
Thomas enwebu David Melding.
Eiliwyd yr enwebiad gan
Christine Chapman.
Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol
Sefydlog 6.8.
Roedd canlyniadau’r
bleidlais gyfrinachol fel a ganlyn:
William Graham |
David Melding |
Ymatal |
Cyfanswm |
12 |
46 |
1 |
59 |
Cyhoeddodd
y Llywydd bod David Melding wedi’i
ethol yn Ddirprwy Lywydd.
Gwnaeth y Dirprwy Lywydd araith fer.
Dyddiad cyhoeddi: 12/05/2011
Dyddiad y penderfyniad: 11/05/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/05/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad