Manylion y penderfyniad
Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau
Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6.1 Yn ei
gyfarfod cyntaf ar ôl etholiad Cynulliad, rhaid i’r Cynulliad ethol Llywydd a
Dirprwy o blith ei Aelodau.
6.2 Os daw
swydd y Llywydd neu swydd y Dirprwy yn wag, rhaid i’r Cynulliad ethol Aelod cyn
gynted â phosibl i lenwi'r swydd wag. Mae ethol Llywydd yn cymryd blaenoriaeth
dros bob busnes arall.
Penderfyniad:
Estynnodd y cyn-Lywydd wahoddiad am enwebiadau yn unol â Rheol
Sefydlog 6.6.
Cynigiodd Ieuan Wyn Jones enwebu Rosemary
Butler.
Eiliwyd yr enwebiad gan
Paul Davies.
Gan na wnaed unrhyw enwebiad
arall, cyhoeddodd y cyn-Lywydd fod Rosemary Butler wedi'i hethol yn
Llywydd.
Cymerodd y Llywydd y gadair a
rhoddodd anerchiad i'r Cynulliad.
Dyddiad cyhoeddi: 12/05/2011
Dyddiad y penderfyniad: 11/05/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/05/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad