Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.55
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5239
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi pwysigrwydd
buddsoddi yn y seilwaith o ran caffael, prentisiaethau, cyflogaeth a busnesau bach yn
economi Cymru;
2.
Yn cydnabod yr effaith negyddol
ar economi Cymru yn sgîl
toriadau i'r gyllideb gyfalaf yn Adolygiad Cynhwysfawr
o Wariant 2010; a
3.
Yn galw am ddiogelu'r gyllideb gyfalaf i Gymru yn yr Adolygiad
Cynhwysfawr o Wariant sydd ar y gweill.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
18 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 16/05/2013
Dyddiad y penderfyniad: 15/05/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad