Manylion y penderfyniad
Debate on the Health and Social Care Committee's Report on the One-day inquiry into stillbirths in Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor
Cynhaliodd Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad undydd
i farw-enedigaethau yng Nghymru yn ystod 2012/13.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad
oedd edrych yn fanwl ar faint o ymwybyddiaeth sydd o’r canllawiau a’r
argymhellion cyfredol yn y sectorau gwahanol o ran atal marw-enedigaethau, yn
arbennig marw-enedigaethau sy’n gysylltiedig â thyfiant gwael y ffetws a llai o
symudiadau gan y ffetws. Roedd y cylch gorchwyl hefyd yn ystyried sut y mae’r
canllawiau a’r argymhellion yn cael eu gweithredu, pa mor effeithiol ydynt, a
lle y gellir gwneud newidiadau posibl.
Cynhaliodd y
Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu
tystiolaeth am y pwnc hwn.
Adroddiad y Pwyllgor
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei
adroddiad (PDF,
794KB) ym mis Chwefror 2013. Ymatebodd (PDF, 225KB)
Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2013. Cynhaliwyd y ddadl
yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mai 2013.
Gwaith dilynol y Pwyllgor
Yn haf 2014, cytunodd y
Pwyllgor i ofyn am adroddiad diweddaru gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ar y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu argymhellion y
Pwyllgor. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Medi
2014.
Yn ei ddiweddariad
(PDF, 422 KB) dywedodd y Gweinidog, er
gwaethaf y cynnydd a wnaed ar ymgysylltiad staff clinigol, mae rhagor o waith
i’w wneud o hyd i weithredu argymhellion y Pwyllgor yn llawn. Yn sgîl yr ymateb
hwn, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i ystyried y pwnc hwn eto er mwyn ystyried pa
mor effeithiol y bu Llywodraeth Cymru yn gweithredu naw argymhelliad y
Pwyllgor.
Ym mis Hydref
2014, gwahoddodd y Pwyllgor y rhai a gyflwynodd dystiolaeth i’r ymchwiliad
gwreiddiol i roi eu barn ar y
cynnydd a wnaed hyd yma.
Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion
hyn, ac ysgrifennodd
at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
(PDF, 205 KB) ar 26 Chwefror 2015. Cafwyd ymateb
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 98KB) ar 30 Mawrth
2015. Trafododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog yn ei gyfarfod
ar 29 Ebrill. Yn dilyn yr ymateb hwn, nododd y Pwyllgor nad oes angen
gwneud gwaith dilynol pellach ar hyn o bryd ac fe gytunodd i gau’r ymchwiliad.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.53
NDM5231
Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad undydd i
farw-enedigaethau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 27 Chwefror 2013.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 09/05/2013
Dyddiad y penderfyniad: 08/05/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad