Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.58
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5213
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu’n
ddirfawr at anghydraddoldeb
ar sail rhyw a'i fwlch cyflog
parhaol ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddatblygu strategaeth
tymor hir i fynd i'r afael
â stereoteipio o ran rhyw.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
14 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 25/04/2013
Dyddiad y penderfyniad: 24/04/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/04/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad