Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.31
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5202
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a)
adolygu'r rheolau caffael mewn llywodraeth leol i'w gwneud
yn haws i gwmnïau a busnesau lleol gynnig am waith a gwasanaethau a darparu cyrsiau hyfforddi i swyddogion caffael mewn awdurdodau lleol;
b)
gweithio gydag
awdurdodau lleol i ddenu cyfleoedd cyflogaeth newydd a sicrhau cymaint o gyflogaeth leol â phosibl pan fydd prosiectau seilwaith mawr ar y gweill;
ac
c)
darparu rhagor
o adnoddau i awdurdodau lleol gynnal a chadw eu rhwydwaith
ffyrdd mewn cyflwr da.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
5 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 17/04/2013
Dyddiad y penderfyniad: 17/04/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/04/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad