Manylion y penderfyniad
Dadl: Llais y Cleifion - Cryfhau Rôl y Cynghorau Iechyd Cymuned
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.24
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5193
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynigion Llywodraeth
Cymru i weddnewid, cryfhau a grymuso Cynghorau Iechyd Cymuned i ymgymryd â’u
rôl yn y GIG yn yr unfed ganrif ar hugain.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu ‘i weddnewid,
cryfhau a grymuso Cynghorau Iechyd Cymuned’ a rhoi yn ei le ‘ar gyfer Cynghorau
Iechyd Cymuned er mwyn eu cynorthwyo’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
5 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai aelodau’r
Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned sydd yn y sefyllfa orau i benodi eu Cadeirydd,
yn hytrach na Gweinidogion Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
1 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i egluro’r canllawiau ynghylch rôl Cynghorau Iechyd Cymuned i fod yn ‘llais i
gleifion’ yn y broses o ad-drefnu gwasanaethau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod Cynghorau Iechyd Cymuned yn llais annibynnol i gleifion.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn
credu bod yn rhaid i Gynghorau Iechyd Cymuned chwarae rhan allweddol wrth fod yn
llais cryf i gleifion a'r cyhoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
Cynghorau Iechyd Cymuned yn cael y cyllid a'r hyfforddiant angenrheidiol er
mwyn cyfrannu’n effeithiol at y broses o ad-drefnu GIG Cymru yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i fabwysiadu Safonau Cenedlaethol Ymgysylltu â’r Gymuned, yn seiliedig ar fodel
yr Alban, er mwyn gwella rôl Cynghorau Iechyd Cymuned o ran sicrhau bod
safbwyntiau'r cyhoedd yn cael eu hystyried yn briodol wrth wneud penderfyniadau
yn y dyfodol am ein GIG.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
39 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5193
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynigion
Llywodraeth Cymru i weddnewid, cryfhau a grymuso Cynghorau Iechyd Cymuned i
ymgymryd â’u rôl yn y GIG yn yr unfed ganrif ar hugain.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod Cynghorau Iechyd Cymuned yn llais annibynnol i gleifion.
Yn
credu bod yn rhaid i Gynghorau Iechyd Cymuned chwarae rhan allweddol wrth fod
yn llais cryf i gleifion a'r cyhoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau
bod Cynghorau Iechyd Cymuned yn cael y cyllid a'r hyfforddiant angenrheidiol er
mwyn cyfrannu’n effeithiol at y broses o ad-drefnu GIG Cymru yn y dyfodol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
11 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2013
Dyddiad y penderfyniad: 19/03/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad