Manylion y penderfyniad
Debate: The Estyn Annual Report 2011-12
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.40
NDM5189 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi
dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2011-12.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'n benodol gasgliad y Prif Arolygydd mai
‘presenoldeb yw’r agwedd wannaf ar les yn yr ysgolion o hyd’.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r angen, a nodwyd gan y Prif Arolygydd, i roi mwy
o gefnogaeth i athrawon wrth fynd ati i sicrhau bod safonau’n gwella.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio mwy ar rannu
arferion gorau mewn addysg ar gyfer torri’r cylch tlodi ac anfantais mewn
ysgolion.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y canfyddiadau yn yr adroddiad fod y
gyfran o ysgolion a gafodd eu harolygu yn 2011-12 y barnwyd eu bod yn rhagorol
neu’n dda yn is na’r flwyddyn flaenorol, gyda mwy o ysgolion uwchradd yn y
pegynau perfformiad rhagorol neu anfoddhaol.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill
y gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r canllawiau a
roddwyd i ysgolion er mwyn sicrhau bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael
ei ddefnyddio’n effeithiol i dargedu’r cyfraddau uchel o absenoldeb ymhlith
disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim, er mwyn codi lefelau cyflawniad
disgyblion o gefndiroedd tlotach gymaint â phosibl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
11 |
28 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Estyn yn adrodd
am ba mor effeithiol y mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio
gan ysgolion i leihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd
difreintiedig a disgyblion o gefndiroedd mwy cefnog.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
20 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder bod 54 y cant o ysgolion uwchradd a 48 y
cant o ysgolion cynradd wedi cael eu nodi ar gyfer ymweliadau dilynol, sy’n fwy
na’r llynedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu meincnodau a
thargedau cenedlaethol i fonitro'r cynnydd a wneir i fynd i’r afael â’r bwlch
rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
10 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r 'disgyblion mwy galluog a thalentog
yn cyflawni gystal yng Nghymru ag yn Lloegr', yn ôl yr adroddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi cryn bryder bod angen gwella safonau
llythrennedd dros hanner yr ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd yng Nghymru,
yn ôl yr adroddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth ganfyddiadau Estyn sy’n awgrymu bod 'perfformiad
addysgu sydd o safon gyffredin' yn bodoli.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
14 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 11.
Gwelliant 12 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog y Gweinidog i egluro sut y gwnaeth swyddogion
Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar yr adroddiad hwn gan gorff hyd braich
annibynnol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
43 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 12.
Gwelliant 13 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i'r
afael â'r methiannau yn system addysgol Cymru a nodwyd gan Estyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 13:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 13.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5189 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi
dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2011-12.
Yn nodi'n benodol gasgliad y Prif Arolygydd mai ‘presenoldeb
yw’r agwedd wannaf ar les yn yr ysgolion o hyd’.
Yn nodi'r angen, a nodwyd gan y Prif Arolygydd, i roi mwy
o gefnogaeth i athrawon wrth fynd ati i sicrhau bod safonau’n gwella.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio mwy ar rannu
arferion gorau mewn addysg ar gyfer torri’r cylch tlodi ac anfantais mewn
ysgolion.
Yn gresynu wrth y canfyddiadau yn yr adroddiad fod y
gyfran o ysgolion a gafodd eu harolygu yn 2011-12 y barnwyd eu bod yn rhagorol
neu’n dda yn is na’r flwyddyn flaenorol, gyda mwy o ysgolion uwchradd yn y
pegynau perfformiad rhagorol neu anfoddhaol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Estyn yn adrodd
am ba mor effeithiol y mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio
gan ysgolion i leihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd
difreintiedig a disgyblion o gefndiroedd mwy cefnog.
Yn mynegi pryder bod 54 y cant o ysgolion uwchradd a 48 y
cant o ysgolion cynradd wedi cael eu nodi ar gyfer ymweliadau dilynol, sy’n fwy
na’r llynedd.
Yn gresynu wrth ganfyddiadau Estyn sy’n awgrymu bod
'perfformiad addysgu sydd o safon gyffredin' yn bodoli.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
11 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2013
Dyddiad y penderfyniad: 19/03/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad