Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.50
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5180 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod bod yr ysgogiadau economaidd
ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud
gwahaniaeth sylweddol i economi Cymru.
2.
Yn gresynu mai Gwerth Ychwanegol
Crynswth Cymru yw’r isaf o blith
gwledydd y DU.
3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth
ar gyfer datblygu economaidd yng ngoleuni’r pryderon a godwyd yn adroddiad Ysgol
Fusnes Prifysgol Caerdydd 'Small Businesses in Priority Sectors’ ynghylch y dull gweithredu ar sail sectorau.
4.
Yn credu bod yn rhaid i’r
Gweinidog sefydlu targedau clir a mesuradwy ar gyfer
dangosyddion economaidd allweddol i hybu cynnydd economaidd a chaniatáu monitro’r cyflenwi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
37 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt
1 dileu ‘yr’ cyn ‘ysgogiadau economaidd’ a chynnwys ar ddiwedd y pwynt:
‘er gwaethaf y ffaith bod nifer yn parhau i fod
o dan reolaeth Llywodraeth y DU’
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
16 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar
ddechrau pwynt 2:
‘Yn croesawu’r cynnydd
sy’n cael ei wneud i gynyddu
cystadleurwydd ar draws y
DU ar ôl i’r DU godi yn
ddiweddar o’r degfed safle i'r
wythfed safle ym Mynegai Cystadleurwydd
Byd-Eang Fforwm Economaidd y Byd 2012-2013, ond'
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
8 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 2: ‘ond yn gwrthod
derbyn bod y sefyllfa hon yn anochel’
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r gefnogaeth a gynigir ar gyfer masnacheiddio
eiddo deallusol academaidd o bob Prifysgol yng Nghymru, i sicrhau bod ein hentrepreneuriaid yn cael y cyfle gorau
i ddatblygu busnesau ffyniannus a chynhenid yng Nghymru ar
gyfer y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5180 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod bod ysgogiadau economaidd ar gael i Lywodraeth
Cymru er mwyn gwneud gwahaniaeth
sylweddol i economi Cymru er gwaethaf y ffaith bod nifer yn parhau i fod
o dan reolaeth Llywodraeth y DU.
2.
Yn croesawu’r
cynnydd sy’n cael ei wneud
i gynyddu cystadleurwydd ar draws y DU ar ôl i’r DU godi
yn ddiweddar o’r degfed safle
i'r wythfed safle ym Mynegai
Cystadleurwydd Byd-Eang Fforwm Economaidd y Byd 2012-2013, ond yn gresynu mai
Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru yw’r isaf o blith
gwledydd y DU ac
yn gwrthod derbyn bod y sefyllfa hon yn anochel.
3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i adolygu’r gefnogaeth a gynigir ar gyfer
masnacheiddio eiddo deallusol academaidd o bob Prifysgol yng Nghymru,
i sicrhau bod ein hentrepreneuriaid yn cael y cyfle gorau
i ddatblygu busnesau ffyniannus a chynhenid yng Nghymru ar
gyfer y dyfodol.
4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth
ar gyfer datblygu economaidd yng ngoleuni’r pryderon a godwyd yn adroddiad Ysgol
Fusnes Prifysgol Caerdydd 'Small Businesses in Priority Sectors’ ynghylch y dull gweithredu ar sail sectorau.
5.
Yn credu bod yn rhaid i’r
Gweinidog sefydlu targedau clir a mesuradwy ar gyfer
dangosyddion economaidd allweddol i hybu cynnydd economaidd a chaniatáu monitro’r cyflenwi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
11 |
24 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 07/03/2013
Dyddiad y penderfyniad: 06/03/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad