Manylion y penderfyniad
Debate on the Constitutional and Legislative Affairs Committee's Report on the Inquiry into the establishment of a separate Welsh jurisdiction
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Ers i ganlyniad y refferendwm ar 3 Mawrth 2011 roi pwerau
eang i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud deddfau i Gymru, mae’r cwestiwn ynghylch
a ddylai Cymru ddod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân wedi dod yn fater o
ddiddordeb a gaiff ei drafod yn gyhoeddus. Yn benodol, mae Prif Weinidog Cymru
wedi nodi ei fod yn bwriadu dechrau trafodaeth gyhoeddus ynghylch a oes angen
awdurdodaeth ar wahân i Gymru.
Barn y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw bod y datblygiadau hyn yn rhoi
cyfle da i archwilio’r agweddau
technegol o’r cwestiwn hwn ac felly wedi
cytuno i gynnal ymchwiliad iddo.
Ceir rhagor o wybodaeth gefndir am y datblygiadau sydd wedi
arwain at farn y Pwyllgor mewn papur a baratowyd gan Wasanaeth Ymchwil y
Cynulliad, ac mae hwn wedi’i gynnwys isod.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15:03
NDM5178 David Melding (Canol De Cymru)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i awdurdodaeth ar wahân i Gymru, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 07/03/2013
Dyddiad y penderfyniad: 06/03/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad