Manylion y penderfyniad
Dadl: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.30
NDM5174 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn dathlu Diwrnod
Rhyngwladol y Menywod 2013 i gydnabod rôl a chyfraniad menywod yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod dewrder menywod sydd wedi cael eu cam-drin am
roi gwybod am ddigwyddiadau ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo
strategaeth integredig ar gyfer mynd i'r afael â thrais domestig a rhywiol.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o gynyddu nifer y menywod sydd
mewn sefyllfa o bwer a dylanwad yng Nghymru.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5174 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn dathlu Diwrnod
Rhyngwladol y Menywod 2013 i gydnabod rôl a chyfraniad menywod yng Nghymru.
2. Yn cydnabod dewrder menywod sydd wedi cael eu cam-drin
am roi gwybod am ddigwyddiadau ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo
strategaeth integredig ar gyfer mynd i'r afael â thrais domestig a rhywiol.
3.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o
gynyddu nifer y menywod sydd mewn sefyllfa o bwer a dylanwad yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i
diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 06/03/2013
Dyddiad y penderfyniad: 05/03/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad