Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.29
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5172 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi’r
effaith negyddol y gall amseroedd ymateb gwael gan ambiwlansys
ei chael ar iechyd a lles
cleifion;
2.Yn nodi
bod 11 o orsafoedd ambiwlans
wedi cau yng Nghymru ers
2008/09;
3.Yn mynegi
pryder bod gormod o gleifion yng Nghymru
yn aros yn
hwy na’r amseroedd targed i ambiwlans ymateb;
4.Yn gresynu
bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru wedi gostwng cyfanswm
nifer yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu yng Nghymru dros
y blynyddoedd diwethaf;
5.Yn gresynu
bod posibilrwydd y bydd yr ansicrwydd ynghylch
ffurf gwasanaethau ambiwlans i’r dyfodol
yn tanseilio’r broses o ad-drefnu’r GIG yng Nghymru sy’[n digwydd
ar hyn o bryd.
6.Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a)
gynyddu nifer
yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu
yng Nghymru;
b)
sicrhau bod gan Gymru rwydwaith
digonol o orsafoedd ambiwlans ledled y wlad; ac
c)
rhoi sicrwydd
y bydd yr adolygiad Gweinidogol o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy’n digwydd ar
hyn o bryd yn cyflawni amseroedd
ymateb gwell.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
36 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 3:
‘a bod rhai cleifion
nad ydynt yn cael eu
cyfrif fel galwadau brys categori
A yn aros am oriau mewn poen
nes bod ambiwlans ar gael’
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt
6c), dileu ‘cyflawni amseroedd ymateb gwell’ a rhoi'r canlynol yn ei
le:
‘:
i)
cyflawni canlyniadau
mesuradwy gwell i gleifion; ac
ii)
archwilio pa mor briodol yw’r
model annibynnol presennol’
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
13 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru )
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 6:
‘buddsoddi i uwchsgilio
a hyfforddi staff presennol
y gwasanaeth ambiwlans i lefel parafeddygon.’
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
38 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5172 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi’r
effaith negyddol y gall amseroedd ymateb gwael gan ambiwlansys
ei chael ar iechyd a lles
cleifion;
2.Yn nodi
bod 11 o orsafoedd ambiwlans
wedi cau yng Nghymru ers
2008/09;
3.Yn mynegi
pryder bod gormod o gleifion yng Nghymru
yn aros yn
hwy na’r amseroedd targed i ambiwlans ymateb;
4.Yn gresynu
bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru wedi gostwng cyfanswm
nifer yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu yng Nghymru dros
y blynyddoedd diwethaf;
5.Yn gresynu
bod posibilrwydd y bydd yr ansicrwydd ynghylch
ffurf gwasanaethau ambiwlans i’r dyfodol
yn tanseilio’r broses o ad-drefnu’r GIG yng Nghymru sy’[n digwydd
ar hyn o bryd.
6.Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a)
gynyddu nifer
yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu
yng Nghymru;
b)
sicrhau bod gan Gymru rwydwaith
digonol o orsafoedd ambiwlans ledled y wlad; ac
c)
rhoi sicrwydd
y bydd yr adolygiad Gweinidogol o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy’n digwydd ar
hyn o bryd yn:
i) cyflawni
canlyniadau mesuradwy gwell i gleifion; ac
ii)
archwilio pa mor briodol yw’r
model annibynnol presennol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 28/02/2013
Dyddiad y penderfyniad: 27/02/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad