Manylion y penderfyniad
Debate: Government support for new business in Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.36
NDM5169 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ystod eang o gyngor a mentrau sy’n hybu
ac yn cefnogi entrepreneuriaeth a busnesau newydd yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo:
‘Yn mynegi pryder bod nifer o fusnesau newydd yng Nghymru
yn dibynnu ar orddrafftiau banc a chardiau credyd fel y prif ffynonellau o
arian ar gyfer problemau llif arian gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd.’
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu
‘Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod’ a rhoi ‘Yn nodi pa mor
bwysig ydyw bod Llywodraeth Cymru yn darparu’ yn ei le
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y gyfradd cychwyn busnes ar gyfer y sectorau
â blaenoriaeth yn is na’r gyfradd ar gyfer y sectorau nad ydynt yn
flaenoriaeth, ac yn galw ar y llywodraeth i sicrhau bod entrepreneuriaeth yn
cael ei hyrwyddo mewn ysgolion a cholegau.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau dod â
gwahanol fentrau a chynlluniau cymorth y llywodraeth at ei gilydd er mwyn
datblygu dull mwy cyson a chydlynol yng nghyswllt cymorth cychwyn busnes.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y gyfradd dechrau menter yng Nghymru yn
dal yn is na chyfartaledd y DU.
Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i ennyn ysbryd entrepreneuraidd o
oedran ifanc, ac yn credu y byddai sefydlu mentrau cymdeithasol ym mhob ysgol
uwchradd yn sicrhau bod gan ein pobl ifanc sgiliau busnes pwysig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
30 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu dull lleol o
gynorthwyo busnesau newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r effaith gadarnhaol y mae rhyddhad ardrethi
busnes yn ei chael ar hybu cychwyn busnesau newydd yng Nghymru, ac yn annog
Llywodraeth Cymru i ddarparu rhyddhad ardrethi pellach ar gyfer busnesau bach.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai’r cynigion ar gyfer busnes newydd a
amlinellir yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru’
gael eu hystyried o ddifrif gan yr adolygiad o fynediad busnesau yng Nghymru at
gyllid, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2013.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
5 |
7 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ystod o
ffynonellau cyllid ar gyfer busnesau newydd, er enghraifft drwy Undebau Credyd
a Mentrau Cyllid Datblygu Cymunedol eraill.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
7 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ymhellach gyfleoedd entrepreneuriaeth yng
Nghymru i fyfyrwyr sy'n astudio ar lefelau Addysg Uwch ac Addysg Bellach.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 11.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5169 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn
mynegi pryder bod nifer o fusnesau newydd yng Nghymru yn dibynnu ar
orddrafftiau banc a chardiau credyd fel y prif ffynonellau o arian ar gyfer
problemau llif arian gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd.
2. Yn nodi pa mor bwysig ydyw bod Llywodraeth Cymru
yn darparu ystod eang o gyngor a mentrau sy’n hybu
ac yn cefnogi entrepreneuriaeth a busnesau newydd yng Nghymru.
3. Yn nodi bod y gyfradd cychwyn busnes ar gyfer y sectorau â blaenoriaeth yn
is na’r gyfradd ar gyfer y sectorau nad ydynt yn
flaenoriaeth, ac yn galw ar y llywodraeth i sicrhau bod entrepreneuriaeth yn
cael ei hyrwyddo mewn ysgolion a cholegau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau dod
â gwahanol fentrau a chynlluniau cymorth y llywodraeth at ei gilydd er mwyn
datblygu dull mwy cyson a chydlynol yng nghyswllt cymorth cychwyn busnes.
5. Yn gresynu bod y gyfradd dechrau menter yng Nghymru yn dal yn is na chyfartaledd y DU.
6. Yn credu y dylai’r cynigion ar gyfer busnes newydd a
amlinellir yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru’
gael eu hystyried o ddifrif gan yr adolygiad o fynediad busnesau yng Nghymru at
gyllid, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2013.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ystod o ffynonellau cyllid ar gyfer
busnesau newydd, er enghraifft drwy Undebau Credyd a Mentrau Cyllid Datblygu
Cymunedol eraill.
8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ymhellach gyfleoedd
entrepreneuriaeth yng Nghymru i fyfyrwyr sy'n astudio ar lefelau Addysg Uwch ac
Addysg Bellach.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
12 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 27/02/2013
Dyddiad y penderfyniad: 26/02/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad