Manylion y penderfyniad
Legislative Consent Motion – The Energy Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae’r
memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn perthyn â darpariaethau ym Mil Ynni y DU
sy’n ceisio sefydlu safonau perfformiad allyriadau i osod terfynau ar faint o
garbon deuocsid y gall gorsaf bŵer tanwydd ffosil ei
allyrru mewn blwyddyn.
Ceir lincs
i’r holl ddogfennau y cyfeirir atynt ar y tudalen hwn isod, gwelwch:
Ffynonellau a gwybodaeth ychwanegol.
Cefndir
Mae Bil
Ynni Llywodraeth y DU (‘y Bil’) yn cael ei ystyried gan Senedd y DU ar hyn o
bryd [Ionawr 2013]. Cafodd ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ac mae
bellach wedi cyrraedd cyfnod y Pwyllgorau yn Nhŷ’r Cyffredin.
Diben
rhai adrannau o’r Bil hwn yw deddfu mewn meysydd cymhwysedd sydd wedi eu
datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n ofynnol, yn ôl confensiwn, bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (‘y Cynulliad’) yn ystyried cydsynio â hyn. Mae’r
Cynulliad yn gwneud hyn drwy ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol a
gyflwynir gan Lywodraeth Cymru.
Mae
rhagor o wybodaeth am gynigion cydsyniad deddfwriaethol i’w chael yn hysbysiad
hwylus y Gwasanaeth Ymchwil Cyfres y Cyfansoddiad: 6 - Cynigion Cydsyniad
Deddfwriaethol.
Mae’r
cynnig cydsyniad deddfwriaethol wedi ei ddrafftio fel a ganlyn:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried darpariaethau’r Bil Ynni sy’n ymwneud â sefydlu safonau perfformiad
ynghylch allyriadau i osod terfynau ar faint o garbon deuocsid y gall gorsaf
bwer tanwydd ffosil newydd (h.y. un sy’n cael ei phweru gan lo, olew neu nwy
“naturiol”) ei ollwng, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru femorandwm cydsyniad deddfwriaethol (‘y memorandwm’) ar 5
Rhagfyr 2012 sy’n esbonio hyn mewn rhagor o fanylder.
Yn
bennaf, mae’r memorandwm yn nodi bod y darpariaethau yn y Bil y gwneir cais i
gael cydsyniad ar eu cyfer wedi’u cynnwys:
- yng nghymalau
38-40; ac
- yn Atodlen 5.
Diben y polisi
Mae
paragraff 5 o’r memorandwm yn nodi diben y polisi yn fwy manwl. Ceir crynodeb
byr yn y blwch isod.
Crynodeb o ddiben y polisi Mae’r elfennau o’r Bil y gwneir cais i gael
cydsyniad ar eu cyfer yn ceisio gwneud yr hyn a ganlyn: -
creu
dyletswydd i beidio â mynd y tu hwnt i derfyn allyriadau carbon deuocsid
blynyddol; -
darparu
ar gyfer atal y terfyn allyriadau o dan amgylchiadau eithriadol; a -
chreu
dyletswydd i roi trefniadau monitro a gorfodi ar waith. Mae memorandwm Llywodraeth Cymru yn nodi: Nod y darpariaethau hyn yw
safoni ar draws y DU lefel yr allyriadau Carbon Deuocsid a ganiateir ar gyfer
cynhyrchu trydan a sicrhau safon amgylcheddol gyffredinol ar gyfer y DU er
mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â thargedau ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd. Bydd y darpariaethau hyn, os y byddant yn cael eu
rhoi ar waith yng Nghymru, yn adlewyrchu’r rhai a fydd yn gymwys yn Lloegr,
yr Alban a Gogledd Iwerddon. |
Ffynonellau a gwybodaeth ychwanegol
- Mae’r memorandwm
cydsyniad deddfwriaethol ar gael yn: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs.htm?act=dis&id=241254&ds=12/2012
- Mae’r Bil Ynni
ar gael ar wefan Senedd y DU: http://services.parliament.uk/bills/2012-13/energy.html
- Mae Hysbysiad Hwylus y Gwasanaeth Ymchwil, Cyfres y Cyfansoddiad: 6 - Cynigion Cydsyniad
Deddfwriaethol, ar
gael yn: http://www.cynulliadcymru.org/qg07-0006.pdf
- Gellir gweld y
Rheolau Sefydlog yn http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-assembly-guidance.htm (Mae Rheol
Sefydlog 29 yn pennu’r broses ar gyfer ystyried memorandwm cydsyniad
deddfwriaethol).
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.15
NDM5120 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Ynni
sy’n ymwneud â sefydlu safonau perfformiad ynghylch allyriadau i osod terfynau
ar faint o garbon deuocsid y gall gorsaf bŵer tanwydd ffosil newydd (h.y.
un sy’n cael ei phweru gan lo, olew neu nwy “naturiol”) ei ollwng yn ystod
unrhyw flwyddyn benodol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 20/02/2013
Dyddiad y penderfyniad: 19/02/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad